Crynodeb o’r cwrs
Mae’r VTCT VRQ Lefel 2 Tystysgrif mewn Triniaethau Ewinedd yn gwrs harddwch rhan-amser un flwyddyn. Mae’n cwmpasu trin ewinedd a chelfyddyd ewinedd sylfaenol, gan gynnwys strwythur a thwf ewinedd a chlefydau ac anhwylderau’r croen a’r ewinedd, anatomi’r llaw a’r fraich, a gweithdrefnau ymarferol trin ewinedd, sy’n edrych ar dechnegau ymgynghori a chyngor ar ofal yn y cartref. At hynny, mae’r rhaglen yn cwmpasu technegau ewinedd artiffisial, gan gynnwys theori ac arfer lapiau sidan, gosod pennau ewinedd, blendio ac ewinedd acrylig. Mae hefyd yn canolbwyntio ar fusnes, manwerthu ac iechyd a diogelwch. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys arsylwi gwaith ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, holi ar lafar a phrofion ysgrifenedig diwedd uned. Yn ogystal, bydd gan ddysgwyr waith cartref i’w gwblhau, sy’n cynnwys llunio portffolio o dystiolaeth, llenwi llyfrau gwaith ac ymgymryd ag astudiaethau achos ar gyfer trin ewinedd, trin y traed ac ewinedd artiffisial. Yn ogystal, bydd gan y dysgwyr aseiniad i’w gwblhau lle gofynnir iddynt ymchwilio i’r gwahanol fathau o ewinedd artiffisial sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn yr amgylchedd proffesiynol.