Trosolwg o’r Cwrs
Os nad Saesneg yw eich prif iaith gallwch ymuno â’n dosbarthiadau ESOL.
Gall dysgu Saesneg eich helpu i wneud ffrindiau, cael swydd, cael swydd well, helpu’ch plentyn gyda gwaith cartref, siarad â’ch meddyg, athrawon eich plentyn, a chymdogion, paratoi ar gyfer addysg bellach neu uwch a chymwysterau, a llawer mwy. Yn y DU, gelwir dosbarthiadau Saesneg i oedolion yn ‘ddosbarthiadau ESOL’. Mae ESOL yn golygu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Rydym yn cynnal gwahanol ddosbarthiadau yn y gymuned o lefel dechreuwyr i lefel uwch.
Mae gennym nifer o gyrsiau AM DDIM i ddewis o’u plith yn ystod y dydd a gyda’r nos mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys. Mae croeso i chi ymuno unrhyw bryd.
Mae cyrsiau ESOL yn cynnig y cyfle i wella eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu ar y lefel briodol.
- Mynediad 1 – ychydig iawn o wybodaeth o’r Iaith Saesneg sydd ei angen
- Mynediad 2 – mae angen rhywfaint o wybodaeth ymarferol o’r iaith Saesneg
- Mynediad 3 – dealltwriaeth dda o Saesneg llafar, darllen ac ysgrifennu, ond angen datblygu eu gramadeg a’u geirfa ymhellach
- Lefel 1/2 – dealltwriaeth dda iawn o Saesneg llafar, darllen ac ysgrifennu, ond angen datblygu eu gramadeg a’u geirfa ymhellach
Gofynion Mynediad
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ar fyfyrwyr.
Wrth ymuno byddwch yn cael trafodaeth gydag un o’n tîm ESOL i benderfynu pa gwrs sydd fwyaf priodol i chi.
Asesiadau
Bydd hyn yn dibynnu ar y cymhwyster a ddewisir.
Gellir asesu unedau Agored Cymru drwy waith cwrs, cwestiynau ac atebion llafar, chwarae rôl/efelychu neu brofion ysgrifenedig.
Asesir cymwysterau Sgiliau Bywyd City & Guilds mewn Siarad a Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu trwy asesiadau dan reolaeth.
Rhagolygon Gyrfa
Gallwch symud ymlaen i lefelau uwch mewn Sgiliau Bywyd, TGAU neu i gwrs galwedigaethol sy’n addas ar gyfer cyflogaeth.
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Cyrsiau ESOL
Yn y tablau isod fe welwch y dyddiau, amseroedd a lleoliadau ar gyfer ein holl gyrsiau ESOL ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am ein cyrsiau ffoniwch: 0330 818 8100.
Castell-nedd Port Talbot
ESOL |
||
Cwrs | Lleoliad | Dyddiad ac Amser |
Dechreuwyr ESOL | Coleg Castell-nedd | Dydd Llun 10:00 – 12:30 |
Dechreuwyr ESOL | Coleg Castell-nedd | Dydd Mawrth 13:00 – 15:00 |
Dechreuwyr ESOL | Coleg Castell-nedd | Dydd Mercher 10:00 – 12:30 |
Dechreuwyr ESOL | Coleg Castell-nedd | Dydd Mercher 18:00 – 20:00 |
ESOL Canolradd | Coleg Castell-nedd | Dydd Llun 10:00 – 12:30 |
ESOL Canolradd | Coleg Castell-nedd | Dydd Iau 13:00 – 15:30 |
ESOL Canolradd | Coleg Castell-nedd | Dydd Mawrth 10:00 – 12:30 |
ESOL Canolradd | Coleg Castell-nedd | Dydd Mercher 10:00 – 12:30 |
ESOL Canolradd | Coleg Castell-nedd | Dydd Mercher 13:00 – 15:00 |
ESOL Canolradd | Coleg Castell-nedd | Dydd Iau 13:00 – 15:00 |
ESOL Uwch | Coleg Castell-nedd | Dydd Llun 10:00 – 12:30 |
ESOL Uwch | Coleg Castell-nedd | Dydd Llun 13:00 – 15:00 |
ESOL Uwch | Coleg Castell-nedd | Dydd Mawrth 18:00 – 20:00 |
ESOL Uwch | Coleg Castell-nedd | Dydd Mercher 10:00 – 12:30 |
ESOL Uwch | Coleg Castell-nedd | Dydd Mercher 13:00 – 15:00 |
ESOL Uwch | Coleg Castell-nedd | Dydd Gwener 10:00 – 12:30 |
Llythrennedd Digidol ESOL Pob Lefel | Coleg Castell-nedd | Dydd Mawrth 13:00 – 15:00 |
ESOL Paratoi ar gyfer Gwaith Pob Lefel | Coleg Castell-nedd | Dydd Iau 10:00 – 12:00 |
Theori Gyrru ESOL | Coleg Castell-nedd | Dydd Mawrth 9:30 – 11:30 |
ESOL Pob Lefel | Bevin Avenue Port Talbot | Dydd Mawrth 13:00 – 15:00 |
ESOL Pob Lefel | Bevin Avenue Port Talbot | Dydd Mawrth 18:00 – 20:00 |
ESOL Pob Lefel | Bevin Avenue Port Talbot | Dydd Iau 9:30 – 12:00 |
ESOL Pob Lefel | Coleg Pontardawe | Dydd Iau 9:30 – 12:00 |
Powys
ESOL |
||
Cwrs | Lleoliad | Dyddiad ac Amser |
ESOL Canolradd | Coleg Bannau Brycheiniog | Dydd Llun 9:00 – 12:00 |
ESOL Dechreuwyr | Coleg Bannau Brycheiniog | Dydd Mawrth 9:00 – 11:00 |
ESOL Canolradd | Coleg Bannau Brycheiniog | Dydd Mercher 10:00 – 12:00 |
ESOL Dechreuwyr | Canolfan Waith Aberhonddu | Dydd Mercher 14:00 – 16:00 |
ESOL Canolradd | Muse Aberhonddu | Dydd Mercher 16:30 – 19:00 |
ESOL Cymysg | Clarence Hall Crucywel | Dydd Iau 10:00 – 13:00 |
ESOL Cymysg | Canolfan Chwaraeon Cymunedol Crucywel | Dydd Iau 16:30 – 19:30 |
ESOL Cymysg | Coleg Bannau Brycheiniog | Dydd Iau 14:00 – 16:00 |
ESOL Dechreuwyr | Y Cwtch – Coleg Bannau Brycheiniog | Dydd Gwener 10:00 – 12:00 |
ESOL Canolradd | Coleg Bannau Brycheiniog | Dydd Gwener 9:00 – 12:00 |
ESOL Uwch | Coleg Y Drenewydd | Dydd Mercher 17:00 – 19:15 |
ESOL Dechreuwyr/Cyn-ganolradd | Coleg Y Drenewydd | Dydd Mawrth 10:00 – 12:00 |
ESOL Canolradd/ Uwch | Coleg Y Drenewydd | Dydd Mercher 10:00 – 12:00 |
ESOL Canolradd/ Uwch | Coleg Y Drenewydd | Dydd Mercher 12:30 – 14:30 |
ESOL Cyn-ganolradd | Coleg Y Drenewydd | Dydd Iau 10:00 – 12:00 |
ESOL Cyn-ganolradd | Coleg Y Drenewydd | Dydd Iau 12:30 – 14:30 |
ESOL Dechreuwyr/Cyn-ganolradd | Coleg Y Drenewydd | Dydd Mawrth 12:30 – 14:45 |
ESOL Canolradd | Coleg Y Drenewydd | Dydd Mawrth 17:00 – 19:00 |
ESOL Cymysg | Eglwys Gatholig y Trallwng | Dydd Iau 17:00 – 19:00 |
Cysylltwch os oes angen mwy o wybodaeth arnoch gan ddefnyddio’r wybodaeth isod.
Joanne Howells – 0330 818 8408 joanne.howells@nptcgroup.ac.uk
Jacqui Griffiths – 0330 818 8346 jacqui.griffiths@nptcgroup.ac.uk
Linda Kelly – 0330 818 9012 linda.kelly@nptcgroup.ac.uk
Kath Jones – 0330 818 8485 kath.jones@nptcgroup.ac.uk