Mae llawer o fanteision i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan gynnwys gwella cyfathrebu sylfaenol gyda’ch cwsmeriaid/cleientiaid/defnyddwyr gwasanaeth.

Ydych chi eisiau dysgu o gysur eich cartref eich hun?  Yna gallwch fwynhau defnyddio ac ymarfer eich Cymraeg fel rhan o’n rhith-ystafell ddosbarth ar-lein.

Trosolwg o’r cwrs

Gallwn gynnig amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg yn y gweithle ar wahanol lefelau megis sgiliau derbynfa, deall arwyddion a hysbysiadau cyffredin, defnyddio arian ac ysgrifennu cyfarwyddiadau.

Asesiadau

Defnyddir unedau Agored Cymru i asesu’r cwrs hwn

Rhagolygon Gyrfa

Gallwch ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu Cymraeg ar gyfer y gweithle a gallwch symud ymlaen i gyrsiau Cymraeg lefel uwch.

Cyrsiau Cymraeg Sylfaenol

Cynhelir ein cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am ein cyrsiau ffoniwch: 0330 818 8100.

Mae cwrs Cymraeg Sylfaenol ar-lein ar gael dydd Mercher, 13:00 – 15:00. Mae’r cwrs hwn ar gael i bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys.