Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 hwn mewn Busnes yn gwrs dwy flynedd amser llawn, wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o wahanol agweddau ar fusnes.
Cydnabyddir y cymhwyster hwn fel cam cyntaf i lawer o arbenigeddau a chyfleoedd gyrfa, yn ogystal ag amrywiaeth o lwybrau addysg uwch.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu am fyd deinamig busnes a chânt eu hannog i feddwl fel entrepreneuriaid. Byddant yn dod i gysylltiad â llawer o arbenigeddau wrth ddysgu, megis Adnoddau Dynol, Cyllid, Gweinyddu, Rheolaeth, y Gyfraith a Marchnata.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol, megis cynllunio digwyddiadau, ac yn cael y cyfle i ymgymryd ag ymweliadau a chael eu cyflwyno i siaradwyr gwadd sy’n helpu i’w cymell a’u cynnwys yn y byd gwaith.