Cyflwyniad i Raglenni Safon UG/Lefel 3 (Amser Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Bydd y Cyflwyniad i Raglenni Lefel UG / Lefel 3 yn rhedeg rhwng Medi a Mehefin ac wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar gyfer astudio Lefel UG neu gyrsiau Lefel 3. Mae’n gwrs academaidd a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar eich proffil TGAU os nad ydych wedi cwrdd â’r gofynion mynediad sy’n ofynnol ar gyfer rhaglenni UG / Lefel 3 ar hyn o bryd neu os oes angen i chi wella ar rai o’ch proffil TGAU.
Mae hwn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA).
O leiaf 1 Gradd C a 3 Gradd D TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu wybodaeth ddiweddar o weithio gyda’r disgyblaethau hyn.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn ennill pum TGAU, a fydd yn cyfrannu at y gofyniad lleiaf o 6 TGAU sydd eu hangen i symud ymlaen i raglen astudio UG / lefel 3.
Cyfres o TGAU i'w hastudio - gan gynnwys dewis o Saesneg, Mathemateg, Bioleg, Cyfrifiadureg, Cymdeithaseg ac Astudiaethau Crefyddol (rhaid astudio min o 5 pwnc)
Cyfanswm yr amser astudio yw oddeutu 2.5 awr fesul TGAU ynghyd â 2 awr o diwtorial, cyfanswm o 14.5 awr.