January Courses cartoon graphic, multicolour, in English and Welsh

Cyflymwch eich dyfodol gyda Grŵp Colegau NPTC

Cyrsiau rhan-amser ac amser llawn newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2025.

Mae gennym ni amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser ac amser llawn newydd yn dechrau ym mis Ionawr a fydd yn eich helpu i gael eich addysg yn ôl ar y trywydd iawn, uwchsgilio neu symud ymlaen yn y gwaith, neu hyd yn oed ddechrau ar y llwybr i’ch gyrfa ddelfrydol.

Efallai eich bod hefyd yn meddwl am newid cyfeiriad. Mae ein cyrsiau newydd wedi’u cynllunio er mwyn i chi allu blasu sawl maes a gweld pa lwybr sydd orau gennych. Yna, gallwch fod yn siŵr eich bod yn barod i symud ymlaen ym mis Medi 2025.

Bydd ein cyrsiau yn helpu i wella eich rhagolygon gwaith neu roi hwb i yrfa newydd sbon mewn llawer o sectorau, yn enwedig y rhai lle mae prinder sgiliau. Byddwch yn gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd, y mae cyflogwyr lleol eu hangen, i’ch helpu i symud ymlaen neu i newid gyrfa yn gyfan gwbl. Mae ein cyrsiau hyblyg yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn, gyda dosbarthiadau bach yn cynnig cefnogaeth un-i-un.

Mae gennym ni #Dewis i bawb!

Cliciwch yma i bori drwy ein Cyrsiau Ionawr

Cyrsiau E-Ddysgu

Wyddoch chi, rydym hefyd yn cynnig cannoedd o gyrsiau e-ddysgu? Mae’r rhain yn hunan-gyflym ac yn hunan-gyfeiriedig felly gallwch ddysgu yn ôl eich hwylustod. Dechreuwch y Flwyddyn Newydd trwy ddatblygu eich sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd sbon; i gyd o gysur eich cartref.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Nosweithiau Agored

Mae gennym ni Nosweithiau Agored hefyd, lle gallwch chi siarad â’n darlithwyr a chofrestru ar ein cyrsiau gyda’r nos.

Cliciwch yma am wybodaeth Noson Agored

Ariannu

Mae gennym ffrydiau ariannu lluosog ar gael i unigolion ddatblygu eu sgiliau a’u datblygiad proffesiynol heb fawr o effaith ar y llinell waelod.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am y cyllid sydd ar gael

Beth ydych chi’n aros amdano? #ChiYwchDyfodol yng Ngrŵp Colegau NPTC!