Mae’r Addysgwr Arbenigol Mike Gershon yn Ymweld â Grŵp Colegau NPTC

Mike Gershon speaking to staff and students in a engineering workshop

Mae Mike Gershon yn addysgwr a adnabyddir yn rhyngwladol gyda mwy na 40 o lyfrau am addysgu, dysgu ac addysg , gan gynnwys nifer o lyfrau ar y rhestr orau.  Ysgrifennodd dros 90 o ganllawiau a oedd yn cwmpasu pob agwedd ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth ac mae ei waith wedi’i gyfieithu yn Iseldireg, Hebraeg, Arabeg a Thsieinëeg, ac ar hyn o bryd, mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu deunyddiau hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion yng Nghymru.

Mae Mike yn gweithio gydag ysgolion, colegau a llywodraethau yn y DU a thramor gan ddarparu hyfforddiant o safon uchel; ac ymgynghoriad am ddysgu ac addysgu, ac, ar ôl cyfres o sesiynau hyfforddi Datblygiad Proffesiynol Parhaus a drefnwyd ar gyfer staff addysgu’r Coleg gan Phil Jones, Rheolwr Dysgu ac Addysgu Grŵp Colegau NPTC, cynhaliwyd ymweliadau wyneb yn wyneb gan Mike, ar draws nifer o safleoedd y Coleg i gynnig mwy o gymorth a chyfarwyddyd.

Treuliodd Mike wythnos yn ymweld â staff Trin Gwallt a Therapi Cymhwysol yng Ngholeg Afan, staff Peirianneg yng Ngholeg Castell-nedd a staff Lletygarwch yng Ngholeg Y Drenewydd a gweithiodd hefyd gyda’r tîm sgiliau bywyd ac Ymgysylltu ag Ysgolion ym Mannau Brycheiniog, mewn sesiynau wedi’u trefnu gan Reolwr Ansawdd y Coleg, Matt Jones a Gareth Davies, Rheolwr Datblygu Staff.

Dywedodd Phill Jones, Rheolwr Dysgu ac Addysgu Grŵp Colegau NPTC ‘Mae gweithio gydag addysgwr mor adnabyddus yn gyffrous a gwyddwn ni fod datblygiad proffesiynol parhaus yn allweddol er mwyn i athrawon a myfyrwyr dyfu ac mae’n golygu bod modd i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau cyfredol a dysgu sgiliau newydd; gwella ansawdd yr addysgu a ddarparir ar draws y Coleg a chreu amgylchedd lle y mae athrawon yn teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’u dysgu eu hunain.’’