Rhaglen Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Llansawel

Briton Ferry Llansawel FC coloured logo and NPTC Group of Colleges coloured logo side by side.

Mae’n bleser gennym gyflwyno ein Rhaglen Ysgoloriaeth Llansawel newydd ar gyfer chwaraewyr talentog rhwng 16 a 18 oed. Bydd y rhaglen am ddim, mewn partneriaeth â Grŵp Colegau NPTC yn rhoi cyfle i chwaraewyr astudio a hyfforddi ar sail amser llawn yn y clwb pêl-droed.  Bydd y tîm hefyd yn chwarae yn y Gynghrair Colegau Cymru.  Mae ein hacademi yn ffynnu ar hyn o bryd a bydd y rhaglen ysgoloriaeth newydd yn ychwanegu haen allweddol arall i’n llwybr datblygu.

“Rydyn ni wrth ein bodd i lansio’r rhaglen newydd hon sydd wedi cymryd 18 mis i gynllunio.   Rydyn ni’n gweld y rhaglen hon fel cyfle ffantastig i’n chwaraewyr ifanc gael mwy o amser cyswllt gyda’n staff hyfforddi ardderchog yn yr academi, sy’n meddu ar drwyddedau proffesiynol UEFA A / UEFA, bydd chwarae yn y rhaglen hon yn cynyddu datblygiad ein chwaraewyr ifanc a chefnogi ein hamcan i sicrhau bod mwy o’n chwaraewyr datblygu/chwaraewyr yn ein hacademi yn camu ymlaen i’n tîm cyntaf sy’n chwarae yn y Gynghrair Cymru South (Y De) neu hyd yn oed yn symud ymlaen i’r gêm broffesiynol.” Andy Dyer, Cyfarwyddwr Pêl-droed.

Dywedodd Barry Roberts, Pennaeth Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Rydyn ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Llansawel a’r gymuned ehangach gan gefnogi chwaraeon ac addysg. Dyma gyfle cyffrous i fechgyn 16-18 oed i chwarae pêl-droed yn broffesiynol ar yr un pryd ag astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 3 – gan sicrhau’r cyfle i symud ymlaen i gyrsiau eraill fel rhaglen yn y brifysgol neu’n llwybr tuag at bêl-droed proffesiynol.”

Os oes gennych ymholiadau cychwynnol, cysylltwch â barry.roberts@nptcgroup.ac.uk

Dilynwch y linc isod am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Cyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus