Talu teyrnged i Carl James – Pennaeth Peirianneg

Carl James Portrait

Telir teyrnged i Carl James, Pennaeth Peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC.  Bu farw ar ddydd Iau 13 Ebrill, gyda’i deulu wrth ei ochr ar ôl salwch byr.

Cynhelir ei angladd ar ddydd Mawrth, Ebrill 25, am 10.30am yn Amlosgfa Margam.

Mae cydweithwyr, ffrindiau a myfyrwyr Carl wedi ei ganmol i’r eithaf; yn ei neges daer at staff i roi gwybod iddynt am farwolaeth Carl, disgrifiwyd Carl gan Mark Dacey y Prif Weithredwr fel ‘nothing short of a legend’.

Symudodd Carl i fyny trwy rengoedd y Coleg ac roedd yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig am sawl blwyddyn cyn cael ei benodi fel Pennaeth Peirianneg.  Ymhen dwy flynedd, arweiniodd yr adran o fod ar waelod y rhengoedd yng Nghymru i fod ar y brig.  Cyflawnodd hyn gyda gweledigaeth glir o roi’r myfyrwyr yn gyntaf.

Dywedodd Mark Dacey: “Mae hyn yn gamp enfawr ac rydw i’n gwybod pa mor falch y mae ein Peirianwyr yn teimlo am y perfformiad ffantastig hwn.  Bydd ei dîm a’i gydweithwyr agos yn gweld ei golled yn ogystal â phawb a oedd yn adnabod ac yn hoffi’r gŵr bonheddig go iawn.”

Mae cydweithwyr Carl yn trio derbyn y newyddion trist a cheisio meddwl am ddechrau ymgyfarwyddo â bywyd yn y Coleg hebddo.  Dim ots gyda phwy yr oedd Carl yn siarad neu’n cyfarfod, roedd ganddo’r ddawn o oleuo ystafell ac roedd ei hiwmor bob amser yn peri i bobl wenu.  Aeth ati i gyflawni ei waith yn dawel fach ond roedd ei effaith yn enfawr ac yn barhaus; etifeddiaeth i fod yn falch ohoni.  Bydd cynifer o bobl yn gweld ei golled

Ychwanegodd Mr Dacey: “Rydyn ni wedi colli un o deulu’r coleg ac mae’n anodd derbyn y newyddion. Rydyn ni’n gweddïo dros ei deulu ac yn meddwl amdanynt ar adeg hynod o drist.”