Tîm Llais Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn cymryd rhan yn y ffordd y caiff y coleg ei redeg mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • Arolygon myfyrwyr
  • Undeb y Myfyrwyr
  • Cynrychiolwyr Myfyrwyr
  • Moodle
  • Grwpiau ffocws myfyrwyr

Mae gan y coleg Undeb Myfyrwyr, sef grŵp o fyfyrwyr etholedig sy’n cynrychioli’r corff myfyrwyr, ac sy’n ymgyrchu ar y materion sydd o bwys iddynt. Cysylltwch â student-union@nptcgroup.ac.uk  am ragor o wybodaeth.

Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn cael eu dewis i sicrhau bod safbwyntiau a barn y myfyrwyr ar eu cwrs yn cael eu clywed. Eu rôl yw gwella’r addysg a ddarparwn i fyfyrwyr, trwy rannu’r materion a wynebir gan y myfyrwyr ar eu cwrs. Mae cynrychiolwyr yn cael eu dewis ym mis Medi ac yn cael hyfforddiant i’w cefnogi yn eu rôl. Mae’r Cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd cwrs, cyfarfodydd tymhorol y Senedd, a gwahoddir rhai i gynrychioli myfyrwyr mewn cyfarfodydd allweddol ar draws y Coleg.

I gysylltu â’r Tîm Rheoli Cynrychiolwyr Myfyrwyr, e-bostiwch: studentreps@nptcgroup.ac.uk