Mae gan Grŵp Colegau NPTC dîm cymorth penodol sy’n cefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion meddygol.
Mae staff cymorth ar gael ar draws ein holl golegau ac wedi’u lleoli yn ein Parthau Myfyrwyr dynodedig. Fel coleg ein nod yw meithrin annibyniaeth a chroesawu amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ein timau cymorth yn gweithio’n agos gydag ysgolion, rhieni, myfyrwyr a staff addysgu i sicrhau bod trosglwyddiad esmwyth i’r coleg a thu hwnt. Mae’r coleg yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn eu hymagwedd at gymorth ac yn credu y dylai llais y myfyriwr fod wrth wraidd y broses hon.
Cysylltwch â’n tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Aln@nptcgroup.ac.uk os hoffech drafod unrhyw anghenion cymorth neu ofyn am apwyntiad yn un o’n colegau.