TRAFNIDIAETH

Mae myfyrwyr naill ai’n prynu tocyn bws drwy’r Ap First Bus neu os ydynt yn derbyn cyllid (EMA/WGLG neu gronfa caledi), bydd Cymorth i Fyfyrwyr yn darparu cod am ddim i’w roi ar yr ap, i gael tocyn bws tymhorol am ddim. Mae Cymorth i Fyfyrwyr yn cyhoeddi’r rhain ar ddechrau’r tymor.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â studentsupport@nptcgroup.ac.uk

Mae’n bosibl y bydd angen defnyddio bysiau gwasanaeth mewn rhai achosion os nad yw bws pwrpasol y coleg yn mynd heibio lle mae myfyriwr yn byw. Mae tocynnau bws First Cymru yn gweithio ar bob bws, boed yn un coleg neu beidio a hefyd yn gweithio ar fysiau South Wales Transport (oherwydd cytundeb lleol sydd ar waith rhwng South Wales Transport a First Cymru).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw Dewch i Siarad Arian

Llwybrau Trafnidiaeth – Coleg Castell-nedd, Coleg Afan, Academi Chwaraeon Llandarcy, Coleg Pontardawe, Canolfan Adeiladu Abertawe, Canolfan Adeiladu Maesteg.

Mae yna fysiau coleg pwrpasol sy’n dechrau gyda’r rhifau 90, dim ond unwaith y dydd y mae’r bysiau hyn yn rhedeg, gan fynd â myfyrwyr i’r campysau perthnasol yn y bore a chodi myfyrwyr yn hwyr yn y prynhawn.