Mae’r Llu Cadetiaid Cyfunol (CCF) yn cynnig ystod eang o weithgareddau heriol, cyffrous, anturus ac addysgol i bobl ifanc. Y nod yw datblygu sgiliau mewn cyfrifoldeb personol, arweinyddiaeth, a hunanddisgyblaeth. Mae’r CCF yn bartneriaeth addysgol rhwng y Coleg a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, a gall CCF gynnwys adrannau o’r Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, a’r Fyddin neu’r Awyrlu Brenhinol.
Anogir myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg i wirfoddoli i ymuno â’r CCF waeth pa gwrs y maent yn ei astudio. Byddant yn mynychu sesiynau CCF ar brynhawn dydd Mercher yn Academi Chwaraeon Llandarcy, yn ogystal â gwersylloedd penwythnos a gwersyll haf am o leiaf wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd. Ychydig iawn o gost, os o gwbl, sydd i fyfyrwyr.
Bydd myfyrwyr yn dilyn maes llafur CCF sy’n cynnwys pynciau fel darllen mapiau, sgiliau craidd milwrol fel trin arfau a saethu, ymarfer traed (martsio) a sgiliau cyflwyno personol, ymgysylltu â’r gymuned (Sul y Cofio) a gweithgareddau awyr agored fel cyfeiriannu, caiacio, mynydda. beicio a llawer mwy.
Yn ogystal â’u cwrs astudio, nod y CCF yw creu pobl ifanc gyflawn sy’n llawn cymhelliant ac yn barod ar gyfer byd gwaith a gofynion pob math o gyflogwyr.