Mae Grŵp Colegau NPTC yn cydweithio â Grŵp Llandrillo Menai i ddarparu Rhaglen Hyfforddi newydd sbon ar gyfer Cerbydau Trydan i Goleg Peirianneg a Thechnoleg Geethanjali yn India. Mae Cymru Fyd-eang wedi cefnogi’r prosiect ac mae wedi creu cyfle i ddau arbenigwr Cerbydau Trydan, un o Grŵp NPTC ac un o Grŵp Llandrillo Menai, ymweld ag India i ddarparu’r Rhaglen Hyfforddi hon ar gyfer Cerbydau Trydan.
Mae ffurfio’r bartneriaeth hon rhwng Grŵp NPTC a Grŵp Llandrillo Menai wedi creu perthynas gyffrous. Mae arbenigedd Grŵp Llandrillo Menai mewn technoleg gynaliadwy a’i waith ymchwil a datblygu parhaus ym maes Cerbydau Trydan, ac arbenigedd helaeth Grŵp NPTC mewn darparu rhaglenni cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, yn dod ynghyd i greu rhaglen hynod lwyddiannus.
Bydd myfyrwyr yn India yn gallu manteisio ar yr elfennau ymarferol o’r rhaglen Cerbydau Trydan, yn ogystal â’r wybodaeth theori fanwl. Y nod yw helpu i wella’r sgiliau a’r cwricwlwm Cerbydau Trydan yng ngholegau peirianneg India. Ar hyn o bryd, mae diffyg cysondeb â safonau’r diwydiant a’r datblygiadau technegol, felly mae’r cydweithrediad hwn wedi galluogi colegau yn India i ddatblygu eu rhaglenni hyfforddi ar gyfer Cerbydau Trydan.
Nod arall yw galluogi myfyrwyr i gael profiad ymarferol o hyfforddiant Cerbydau Trydan i wella eu rhagolygon o ran cyflogaeth. Mae’r ffaith bod colegau’r DU yn rhannu’r arferion gorau â cholegau India yn gwneud hynny’n bosib.
Mae’r diwydiant Cerbydau Trydan yn India yn tyfu’n gyflym iawn felly drwy gael y cwricwlwm cywir a’r dull datblygu sgiliau delfrydol, gall India fod yn arweinydd byd yn y farchnad Cerbydau Trydan.
Mae Grŵp NPTC yn edrych ymlaen at gyflwyno’r Rhaglen Cerbydau Trydan hon ac yn llawn gobaith ynghylch y dyfodol o ran partneriaethau ag India a hyfforddiant Cerbydau Trydan.