Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys Castell-nedd Port Talbot

NPTC Group of Colleges staff at the Royal Welsh Show 2023

Croesawodd prosiect Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys Castell-nedd Port Talbot, ochr yn ochr â Grŵp Colegau NPTC, ymwelwyr i’w stondin yn Sioe Frenhinol Cymru, gan roi cyfle i ddarpar fyfyrwyr ddarganfod mwy am y dewis ardderchog o gyrsiau sydd ar gael i oedolion sy’n dysgu.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Grŵp Colegau NPTC a detholiad eang o bartneriaid eraill ledled Castell-nedd Port Talbot a Chanolbarth Cymru.

O lythrennedd a rhifedd sylfaenol i amrywiaeth eang o gyrsiau addysg bellach, mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd i oedolion sy’n dysgu gamu’n ôl i fyd addysg unwaith eto, gan ennill profiad gwerthfawr a allai hybu gyrfaoedd mewn sawl maes a gwella setiau sgiliau mewn amrywiol gymwysiadau ymarferol a damcaniaethol.

Mae’r cyrsiau am ddim*, yn rhan-amser, ac yn hyblyg. Mae manteision dysgu gydol oes yn helaeth, gyda gwell cyfleoedd gyrfa, y cyfle i wneud ffrindiau newydd a meithrin perthnasoedd proffesiynol a gwella llesiant meddwl. Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys Castell-nedd Port Talbot yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddysgwyr ar unrhyw gam o’u taith addysgol.

Gallwch ddarganfod mwy am ein hystod o gyrsiau isod.

Cyrsiau Dysgu Cymunedol i Oedolion

Pheidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.

Facebook

Twitter

Instagram