Grŵp Colegau NPTC yw’r lle gorau i astudio yng Nghymru! felly does dim amser gwell i ymrestru yn un o’i golegau.
Mae’r Coleg yn rhif un ar gyfer boddhad myfyrwyr am ei fod yn dod ar y brig yn y tabl cynghrair sy’n cynnwys prifysgolion a cholegau ar draws y DU. Gofynnwyd i fyfyrwyr roi sgôr boddhad mewn perthynas â’u cyrsiau addysg uwch neu’u cyrsiau gradd fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS).
100% boddhad oedd y sgôr o ran cymorth academaidd ac roedd bron 95% yn fodlon ar ansawdd eu cwrs – 17% yn uwch na chyfartaledd y sector yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ni chynhwysir yr un gosodiad yn yr arlowg yn Lloegr felly nid oes data cymharol ar gael, sut bynnag, mae’r Coleg yn perfformio’n well na phrifysgolion a cholegau eraill y DU mewn saith o’r naw categori a gynhwysir yn yr arolwg yn 2023; addysgu ar fy nghwrs, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth; cymorth academaidd; trefnu a rheolaeth; llais myfyrwyr; cyfathrebu o ran gwasanaethau cymorth.
Yn y categorïau hyn, roedd y canrannau’n uwch o lawer na chyfartaledd y sector yng Nghymru a’r DU, yn cynnwys y rhai canlynol: asesu ac adborth 14 % yn uwch; trefnu a rheolaeth 18.5% yn uwch a llais myfyrwyr 18 % yn uwch na sgôr gyfartal y sector.
Ychydig yn llai na 340,00 oedd y nifer o fyfyrwyr a gyflawnodd yr arolwg blynyddol ar draws y DU ac atebodd 15,296 o fyfyrwyr yng Nghymru, sy’n cyfateb i gyfradd ymateb o 74.1 %.
Dywedodd Mark Dacey Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd gyda’r canlyniadau ond nid oedd yn beth annisgwyl.
“Mae Grŵp Colegau NPTC yn darparu amgylchedd dysgu ardderchog a chymorth rhagorol i fyfyrwyr ac mae canlyniadau’r arolwg yn dyst i hyn. Mae ymrwymiad ein staff heb ei ail. Rydym wir yn Goleg cynhwysol, cymunedol sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o raglenni i bawb, yn cynnwys ein rhaglen addysg brifysgol ardderchog a ddarparir mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr a Pearson ac sy’n cynnwys graddau BSc (Anrh) a graddau BA (Anrh), Graddau Sylfaen, cymwysterau HNC, cymwysterau HND, Tystysgrifau/Diplomâu Addysg Uwch, Tystysgrifau mewn Addysg a Thystysgrifau mewn Addysg i Raddedigion.
Dywedodd Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid yn y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: “Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn parhau i fod yn un o’r dulliau pwysicaf i fyfyrwyr o rannu eu barnau am eu sefydliad. Gall yr adborth hwn gwmpasu amrywiaeth o agweddau ar ddysgu, addysgu ac asesu a chyfle i roi gwybod os ydynt yn teimlo bod eu lleisiau fel myfyrwyr wedi cael eu gwrando arnynt.”