Dosbarth Meistr Gyda’r Triniwr Gwallt Arobryn Lee Stafford

Dychwelodd Lee Stafford arobryn i’w Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol yng Ngholeg Afan i gynnal dosbarth meistr gwych arall.

Cyfarfu Lee hefyd â’r garfan bresennol o fyfyrwyr Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol, gan roi arddangosiad iddynt o un o’i ryseitiau unigryw, Twisted Tong, a sôn am ei lwybr i lwyddiant ac ateb eu cwestiynau. Ymhlith y cwestiynau a ofynnwyd iddo oedd: “Pryd wnaethoch chi sylweddoli eich bod wedi llwyddo?” ac atebodd nad yw wedi cyflawni hynny eto! Gofynnwyd iddo hefyd am ei hoff a chas bethau am ei waith a soniodd am rai o’r profiadau gwahanol a gafodd tra’n gweithio fel triniwr gwallt yn Llundain ac ar draws y byd.

Roedd ganddo hyd yn oed amser ar gyfer cwpl o hunluniau ac i roi rhai o’i gynhyrchion bythol boblogaidd i fyfyrwyr a oedd yn gofyn cwestiynau.

Mae’r arwr trin gwallt Lee Stafford – y mae ei gynnyrch pinc llachar yn cael ei werthu yn Boots – wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn ceisio datrys problem barhaus – anaml y mae graddedigion coleg trin gwallt yn barod am salon. Ei ‘Gyfatebiaeth Omled’ ydyw: os mai coginio oedd gwallt, yna mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu gannoedd o wahanol ffyrdd i wneud omled nad yw’n dda iawn – a’r ateb yw cael un ffordd Seren Michelin i’w wneud.

Ychwanegodd Sefydliad Addysg Lee Stafford at restr hir o lwyddiannau eleni ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar ar gyfer Addysgwr y Flwyddyn, a noddir gan Wella Professional, yng Ngwobrau Busnes Trin Gwallt Prydain HJ 2023.

Yn cael ei ystyried yn eang fel un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant, mae’r gwobrau’n cydnabod yr enwau sydd wedi cyflawni rhagoriaeth mewn busnes, gan helpu i gynnal enw da Prydain fel arweinydd byd ym maes arbenigedd trin gwallt.

Enillodd Lee a’i dîm y tlws pwysig Most Wanted, gwobr gan noddwr y categori sef Colorstart, cyhoeddusrwydd ar draws y brand Creative HEAD am hyd eu blwyddyn fuddugol a’r cyfle i ymddangos yn nigwyddiadau Creative HEAD.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan fach yn llwyddiant Lee ym maes addysg, fel yr unig Academi Lee Stafford yng Nghymru, gan ddarparu hyfforddiant eithriadol yng Ngholeg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd.

Mae myfyrwyr yn ymarfer arddulliau a thechnegau blaengar, a elwir yn ryseitiau, a ddyluniwyd gan Lee a steilwyr blaenllaw eraill o bob rhan o’r diwydiant mewn salonau pwrpasol sy’n agored i’r cyhoedd.