Trawsnewid Bywydau: Grŵp Colegau NPTC yn Lansio Partneriaeth gyda Wildfox Resorts Group Ltd

Family Fun Day poster promoting a series of event in the Afan Valley over the next month

Mae menter arloesol a fydd yn rhoi bywyd newydd i Gwm Afan wedi ei lansio gan Grŵp Colegau NPTC.

Nod y Cynllun Ceidwaid Sgiliau yw grymuso unigolion a thrawsnewid cymunedau. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chaiff ei arwain gan Grŵp Colegau NPTC, mewn cydweithrediad â Wildfox Resorts Ltd, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Partneriaeth Sgiliau Dysgu Rhanbarthol, a Gwasanaeth Gwirfoddol CNPT. Ei nod yw mynd i’r afael â’r angen dybryd am hyfforddiant sgiliau parod i gyflogwyr a bydd yn cefnogi cynlluniau twf economaidd strategol yr awdurdod lleol.

Mae’n ceisio cysylltu dysgu ar lawr gwlad a datblygu sgiliau â llwybrau gyrfa newydd yn Wildfox Resorts Group Ltd a chyfleoedd cyflogaeth lleol a rhanbarthol eraill.

Bydd y ffocws ar feithrin partneriaethau cryf rhwng y Coleg, ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a busnesau. Bydd y Cynllun Ceidwaid Sgiliau yn integreiddio cyfleoedd addysg, gan sicrhau pontio di-dor gyda busnesau lleol i greu rhwydwaith o gyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaethau.

Gan weithio ochr yn ochr â 2B Enterprising mewn ysgolion lleol, mae’r Coleg am ymgysylltu â’r gymuned ehangach a defnyddio canolfannau cymunedol a lleoliadau lleol i wasanaethu fel canolfannau ar gyfer gweithgareddau prosiect, gan feithrin ymdeimlad o gynhwysedd a hygyrchedd fel canlyniad pwysig i’r prosiect.

Nodwedd bwysig arall o’r prosiect yw cyfrifoldeb cynaliadwy ac amgylcheddol; tynnu sylw at fentrau fel ymgorffori arferion ecogyfeillgar mewn gweithdai, hyrwyddo sgiliau digidol i leihau’r defnydd o bapur, a phwysleisio ymroddiad i ynni adnewyddadwy ac adfer tirwedd.

Dywedoddd Gemma Charnock, Is-Bennaeth: Corfforaethol, yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Mae’r Cynllun Ceidwaid Sgiliau yn gwahodd unigolion o bob oed yng Nghwm Afan a’r ardaloedd cyfagos i ymuno â’r Coleg wrth adeiladu dyfodol. P’un a yw pobl yn ceisio uwchsgilio neu ailsgilio ar gyfer cyflogaeth, mae’r prosiect yn cynnig amrywiaeth o weithdai, seminarau, sesiynau mentora, a ffeiriau gyrfa i gefnogi llwybrau at lwyddiant.”

Cadarnhaodd Andrew Price, Cyfarwyddwr Datblygu Wildfox Resorts: “Gan adeiladu ar y digwyddiad treftadaeth leol sy’n dathlu Cwm Afan, mae’r Cynllun Ceidwaid Sgiliau yn gam pwysig tuag at ymgysylltu â chymunedau ynghylch rhagolygon cyflogaeth a chysylltu pobl â hyfforddiant a swyddi yn y dyfodol. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle cynnar i ddechrau meddwl am y dyfodol a rhoi cynnig ar rywbeth newydd”.

Mae tri digwyddiad ymgysylltu cychwynnol wedi’u cynllunio i gael eu cynnal yng Nghwm Afan. Nid oes angen archebu lle, galwch heibio i ddysgu mwy am y prosiect a’n cyrsiau:

  • Diwrnod Hwyl i’r Teulu am ddim – Canolfan Fenter Croeserw – 27/03/24, 10am – 3pm.
  • Digwyddiad Ymgysylltu – Canolfan Gymunedol Cwmafan – 10/04/24, 4pm – 7pm.
  • Digwyddiad Ymgysylltu – Canolfan Gymunedol Noddfa, Glyncorrwg – 17/04/24, 4pm – 7pm.

Mae’r Cynllun Ceidwaid Sgiliau wedi derbyn £260,777 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.