Datganiad Personol

Peidiwch â chynhyrfu ynghylch ysgrifennu datganiad personol. Rydyn ni eisiau darganfod ychydig amdanoch chi cyn i chi ddod am gyfweliad. Nid oes rhaid i chi ysgrifennu llawer iawn, dim ond cwpl o frawddegau ar gyfer pob un o’r pwyntiau isod.

Pam ydych chi eisiau astudio’r cwrs?

Oes gennych chi brofiad yn y pwnc hwn? Gwaith neu addysg neu wybodaeth neu brofiad personol?

Os ydych yn fyfyriwr aeddfed, eglurwch beth ydych chi wedi bod yn ei wneud, yn gweithio, yn gwirfoddoli, yn gofalu am neu’n magu teulu?

Oes gennych chi unrhyw sgiliau, hobïau neu ddiddordebau sy’n berthnasol i’r cwrs?

Beth ydych chi eisiau ei wneud yn y dyfodol?

I gael rhagor o gyngor ar ysgrifennu datganiadau personol, cliciwch ar y ddolen hon i wefan UCAS.

UCAS