Mae Grŵp Colegau NPTC yn ymuno â Choleg y Mynydd Du ac Ysgol Calon Cymru i gynnig Gweithdau Natur am ddim

Black Mountains College Logo

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch i gyhoeddi menter ar y cyd gyda Choleg y Mynydd Du ac Ysgol Calon Cymru i gyflwyno cyfres o weithdai a digwyddiadau atyniadol i’r gymuned leol yn Llandrindod.  Mae’r cynigion hyn yn addas i unigolion a theuluoedd, wrth hyrwyddo cysylltiad mwy dwfn â natur trwy brofiadau dysgu ymarferol yn yr awyr agored.

Mae’r gweithdai wedi’u cynllunio i ddefnyddio natur fel y brif ystafell ddosbarth gan fanteisio ar fuddion niferus addysg awyr agored. Mae ymchwil yn awgrymu bod profiadau o’r fath yn gwella deilliannau dysgu, yn ogystal â chyfrannu at wella llesiant, y gallu i ganolbwyntio a hyder ymhlith cyfranogwyr.

Yn ymrwymedig i gynhwysiant, mae’r holl weithdai ar gael am ddim i gael gwared â rhwystrau economaidd-gymdeithasol i ddysgu.  Mae’r bartneriaeth o blaid meithrin mynediad cyfartal i addysg a magu perthynasau gyda chymunedau a sefydliadau amrywiol.

Bydd y cyrsiau sydd ar gael mewn partneriaeth ag YCC a Grŵp Colegau NPTC yn cael eu cynnal o fis Mai tan fis Gorffennaf yng Nghanolfan y Chweched Dosbarth Ysgol Calon Cymru yn Llandrindod Well ac maent yn cynnwys:

  1. Creu Abwydfa: Gweithdy sy’n canolbwyntio ar deuluoedd gan ddangos sut i greu compost llawn maetholion o wastraff o’r gegin a’r ardd. (18/05/24)
  2. Tyfu’ch Llysiau eich Hun: Gweithdy sy’n rhoi gwybodaeth i deuluoedd am dyfu llysiau iach a blasus. (25/05/24)
  3. Plannu ar gyfer Bywyd Gwyllt: Bydd teuluoedd yn dysgu camau ymarferol i wella ecosystemau lleol trwy blannu ardaloedd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. (08/06/24)
  4. Celf o’r Byd Natur: Dau sesiwn lle y gall dysgwyr sy’n oedolion ymchwilio i’w creadigrwydd wrth ddefnyddio deunydd naturiol i grefftio celfweithiau unigryw yn ystod y ddau sesiwn. (12/06/24) a (19/06/24)
  5. Saffari gyda’ch Ffôn Clyfar: Sesiwn sy’n dysgu teuluoedd sut i adnabod a thynnu lluniau o fywyd gwyllt lleol wrth ddefnyddio ffonau clyfar. (22/06/24)
  6. Gofalu am eich Offer: Gweithdy i oedolion yn unig sy’n darparu awgrymiadau hanfodol am gynnal a chadw offer garddio a gwaith coed. (06/07/24)
  7. Helwyr Coed: Gall teuluoedd fynd ar daith fach yn Rock Park i ddarganfod a dysgu am bwysigrwydd coed. (20/07/24)

Gellir cofrestru am bob digwyddiad trwy’r dolenni bwcio a ddarparir, i sicrhau hygyrchedd i unrhyw unigolyn â diddordeb.

Am fwy o wybodaeth ac er mwyn cofrestru, ewch i https://buytickets.at/communitylearning.