Gwobrau Cystadleuaeth Genedlaethol mewn Trin Gwallt Addysg Lee Stafford 2024

Pamela O’Brien and Jasmine Davies with their awards in front of the Lee Stafford Education sign at Afan College

Cynhaliwyd y Gwobrau Cystadleuaeth Genedlaethol mewn Trin Gwallt Addysg Lee Stafford 2024 yr wythnos ddiwethaf gyda staff a myfyrwyr o bob un o Academïau Addysg Lee Stafford yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.

Enillodd Pamela O’Brien o Goleg Afan wobr Hyfforddwr Coleg y Flwyddyn. Enillodd Pamela y wobr hon ar ôl ennill y blaen ar hyfforddwyr eraill o’r holl academïau Addysg Lee Stafford ar draws y DU. Cafodd ei dethol a’i henwebu ar gyfer y wobr hon gan Lee Stafford ei hunan a’r beirniaid Michael Saunders a Tony Wood a ymwelodd â’r holl Academïau Addysg Lee Stafford yn ystod y flwyddyn i asesu hyfforddwyr.

Dywedodd Lee ei hunan: “Roedd hyn yn benderfyniad anodd, ond disgleiriodd Pamela yn fwy na’r hyfforddwyr eraill, mae tîm Addysg Lee Stafford a’r staff wrth eu bodd gyda’i pherfformiad; mae hi bob amser yn ymbaratoi’n dda, yn barod i addysgu, yn gadarn ond yn deg ac yn defnyddio ethos a methodolegau Addysg Lee Stafford”.

Roedd Pamela hefyd yn un o’r hyfforddwyr cyntaf i gyflawni’r Diploma Meistr Hyfforddwr, neu’r ‘Golden Scissors’, am llwyddo i gyrraedd y ‘Big 10’ ym mhob un o’r ryseitiau Lefel 2 a Lefel 3.

Dywedodd Rebecca Crew, Dirprwy Bennaeth Academi Addysg Lee Stafford:

“Rydyn ni’n hynod o falch o Pam a’i champ anhygoel; mae ei hymrwymiad a’i chefnogaeth ddi-ffael ar gyfer ei holl fyfyrwyr wir yn ganmoladwy. Roedd Pam yn un o’r tiwtoriaid trin gwallt cyntaf i gyflawni Meistr Hyfforddwr gyda ni sy’n dangos i’r dim ei gwaith caled a’i gwybodaeth arbenigol. Mae ennill Meistr Hyfforddwr y Flwyddyn yn dystiolaeth o ymdrechion di-ffael a chyfraniadau rhagorol Pam.”

Ychwanegodd Pamela:

“Yn 2019, roedd ein cydweithrediad ag Addysg Lee Stafford Education yn hynod o lwyddiannus.  Aethon ni trwy hyfforddiant trylwyr, yn cofleidio’n llwyr yn eu hethos a’u methodolegau.  Diolch i gymorth di-ffael Michael Saunders, ein Hyfforddwr Lee Stafford, mae ein tîm yn gweithredu’r technegau a ddysgwyd yn fedrus.  Dwi’n teimlo taw fi yw’r cyntaf o nifer o aelodau’r tîm trin gwallt yng Ngrŵp Colegau NPTC a fydd yn mynd ymlaen i ennill y wobr hon.”

Roedd llwyddiant i rai o’n myfyrwyr hefyd yn y seremoni wobrwyo wrth i Jasmine Davies ennill y lle cyntaf yn y categori Lefel 2 a 3 mewn Lliwio a Thorri. Daeth Rebecca Thomas yn ail yn y categori Steilio Lefel 1 a 2, gyda Taiya Griffiths yn cyflawni Clod Uchel yn y Categori Torri a Steilio Lefel 2.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio yn ein Hacademi Addysg Lee Stafford, cliciwch y linc isod i weld y cyrsiau sydd ar gael gennym.

Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol