Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Gwasanaethau Cyfreithiol?

Yn Hyfforddiant Pathways rydym yn darparu Prentisiaethau mewn Gwasanaethau Cyfreithiol a fydd yn rhoi cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol i ddysgwyr. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle gyda chymorth cyflogwyr a byddant yn mynychu sesiynau academaidd un diwrnod yr wythnos yn y coleg yn ystod y tymor. Bydd asesiadau ar-lein gyda rhywfaint o waith cwrs.

Bydd y rhaglen hon yn cefnogi rolau o fewn y sector cyfreithiol gan gynnwys Paragyfreithiol, Triniwr Achosion a Chynorthwyydd Cyfreithiol (Lefel 3).

RYDYM YN CYNNIG

Tystebau

Datganiad Prentis

Ar hyn o bryd rwy’n astudio Prentisiaeth Cilex trwy Goleg Castell-nedd. Fel prentis, rwy’n gallu ennill y profiad sydd ei angen i symud ymlaen yn fy ngyrfa gyfreithiol, tra’n parhau i weithio er mwyn cefnogi fy nheulu. Rwy’n mwynhau’r cwrs. Rwyf newydd sefyll fy arholiad cyntaf ac yn edrych ymlaen at symud ymlaen ymhellach.

Sara Evans, Prentis Gwasanaethau Cyfreithiol.

Datganiad y Cyflogwr

“Rydym yn falch iawn o weld ein haelodau staff yn symud ymlaen gyda’u cymhwyster CILEX gyda chymorth a chefnogaeth Academi’r Gyfraith yng Ngrŵp Colegau NPTC”

Ceri, Cyfreithwyr D.R James.

Cysylltwch â Hyfforddiant Pathways am ragor o wybodaeth.