Enillodd dau fyfyriwr Safon U o Grŵp Colegau NPTC wobrau yn y gystadleuaeth adolygu llyfrau DylanED2024 yn ddiweddar, a drefnir gan Brifysgol Abertawe, fel rhan o’r dathliadau rhyngwladol ehangach Gwobr Dylan Thomas.
Gofynnwyd i Ellie Evans a Gracie George ysgrifennu adolygiad 200 gair o un o’r llyfrau ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Dylan Thomas 2024. Dewiswyd blodeugerdd y bardd Mary Jean Chan o’r enw ‘Bright Fear’ ac roeddent yn cystadlu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws Bae Abertawe, wrth greu adolygiadau huawdl, meddylgar a thiemladwy. Cyflwynwyd y wobr i’r myfyrwyr yn y Seremoni Wobrwyo Gwobrau Dylan Thomas yn Theatr Taliesin.
Enwyd y wobr arôl yr awdur Dylan Thomas a ganwyd yn Abertawe ac i ddathlu ei 30 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Un o’r ysgrifenwyr mwyaf dylanwadol canol yr ugeinfed ganrif, a adnabyddir yn rhyngwladol, mae’r wobr yn galw ar ei gof i gefnogi ysgrifenwyr heddiw a meithrin ysgrifenwyr talentog yfory.
Roedd Dylan Thomas, yr awdur ifanc hanfodol yn berffaith i fod yn ysbrydoliaeth i ysgrifenwyr ifanc yn fyd-eang. Roedd natur ffres ac uniongyrchedd ei waith ysgrifenedig yn nodweddion parhaus na chafodd byth eu colli ganddo.
Dywedodd Dylan Thomas unwaith: “My education was the liberty I had to read indiscriminately and all the time, with my eyes hanging out” ac mae DylanED yn anelu at gyflwyno pobl ifanc i fyd llenyddiaeth gan eu hannog i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol eu hun. Mae’r brifysgol yn gweithio gydag awdurdodau lleol, noddwyr, ysgolion, colegau a darlledwyr i sicrhau bod ysgrifenwyr ifanc a myfyrwyr ar draws Cymru yn gweld y Wobr Ryngwladol Dylan Thomas fel rhywbeth y maent yn rhan ohono. Mae’r wobr yn dod ag ysgrifenwyr ifanc o bedwar ban y byd i Gymru a’r DU. Maent yn cael eu hannog i gynnal dosbarthiadau, darlleniadau, gweithdai a gweithio gyda phobl ifanc eraill. Wedi’i drefnu ochr yn ochr â rhaglen ymgysylltu Prifysgol Abertawe ag ysgolion lleol, DylanED yw prif ffynhonnell ysbrydoliaeth ar gyfer pobl ifanc y fro. Sefydlwyd y Rhaglen DylanED i sicrhau datblygiad yr agwedd hon ar y Wobr a gweithio ochr yn ochr ag ysgrifenwyr talentog Abertawe a Chymru.
Roedd eu darlithydd Rhodri Lewis, a oedd wedi eu hannog i gystadlu yn y gystadleuaeth wrth ei fodd gyda’r canlyniad. Dywedodd: “Gwnaeth yr adolygiadau arobryn argraff fawr arna i a darparwyd sylwadaeth sylwgar, rhugl ac ystyrlon am waith Chan”.
Cliciwch ar y botwm isod i gael mwy o wybodaeth am astudio Saesneg yn ein Hacademi Chweched Dosbarth.