Partneriaeth: Prentisiaethau gyda Chyflogwr Lleol o Fri yn Mynd o Nerth i Nerth

Mae Hyfforddiant Pathways (darparwr hyfforddi seiliedig ar waith Grŵp Colegau NPTC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi bod mewn partmeriaeth er 2016, yn darparu cyfleoedd i brentisiaid ddysgu a datblygu mewn lleoliad proffesiynol.

Mae’r bartneriaeth yn darparu hyfforddiant a chymorth a ariennir i brentisiaid mewn Cyfrifeg, Rheolaeth, Gweinyddiaeth Busnes a Gofal Iechyd. Mae hefyd yn darparu cyfle i gael cyflogaeth barhaol ynghyd â chyfleoedd dilyniant, o fewn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB).

Mae SBUHB yn ymrwymedig i ddatblygu ei lwybr dilyniant a rheoli doniau ac mae’r llwybr prentisiaethau yn rhan ohono.  Maent yn ymwybodol bod gweithlu’r cwmni yn heneiddio ac felly mae angen sicrhau rhaglen barhaus o gyflwyno dawn a sgiliau newydd i’r tîm ehangach.

Stuart Davies yw’r Prif Reolwr Cyllid ar gyfer Perfformiad a Datblygiad yn yr adran Gyllid yn SBUHB. Dechreuodd Stuart ei rôl yn 2022 ac mae ganddo gyfrifoldeb fel rheolwr llinell i ddau brentis.

Yn yr adran Gyllid, mae chwe phrentis arall a chyd-weithwyr sydd wedi cyflawni’r cymhwyster AAT trwy’r llwybr prentisiaethau.

Mae Stuart yn gefnogwr brwd dros y llwybr prentisiaethau:

“Mae’r llwybr prenisiaethau yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddatblygu ein gweithlu a gwella sgiliau ac gwtbodaeth arbenigol.  Mae prentisiaid yn cynnig ffordd gynaliadwy o dyfu ein tîm trwy ddod â thalent newydd i mewn a rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol iddynt er mwyn llwyddo yn eu rolau.  Maen nhw hefyd yn gallu helpu i ddatblygu sgiliau staff cyfredol gan roi cyfloedd i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd a’u datblygiad personol.

“Rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda’n prentisiaid blaenorol, sydd, yn ogystal â dod o hyd i rolau o fewn i’r adran hefyd wedi dangos eu gallu mewn rolau ar raddfeydd uwch.

Mae Stuart hefyd yn canmol ei bartneriaeth gyda Hyfforddiant Pathways:

“Mae gyda ni gysylltiadau da gyda Hyfforddiant Pathways yng Ngholeg Castell-nedd ac maen nhw’n ymweld â’n prentisiaid yn aml i wneud yn siwr eu bod ar y trywydd iawn gyda’u hastudiaethau ac bod ganddyn nhw’r holl gymorth angenrheidiol. Dwi’n gwybod eu bod nhw’n mynd tu hwnt i’r disgwyl o ran faint o gymorth a chyfarwyddyd y maen nhw’n eu rhoi i’w brentisiaid.”

Ar hyn o bryd, mae Eli Thomas-Jones yn cwblhau Prentisiaeth mewn Cyfrifeg ac mae wrthi’n astudio AAT Lefel 3. Dechreuodd ar ei daith fel prentis ym mis Medi 2022 wrth ennill Prentisiaeth Sylfaen gydag Archwilio Cymru a chyflawnodd ei gymhwyster AAT Lefel 2. Mae Eli yn cyflawni ei brentisiaeth trwy Hyfforddiant Pathways yng Ngholeg Castell-nedd. Ar hyn o bryd, mae ar secondiad gyda SBUHB o’i gyflogwr Archwilio Cymru fel Prentis Cyllid.

Mae Eli yn teimlo bod cyflawni prentisiaeth wedi ei ymbaratoi i lwyddo:

“Dwi wir wedi gweld gwerth fy mhrentisiaeth, am fy mod i wedi llwyddo i ennill profiad ymarferol gydag Archwilio Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae fy nghyd-weithwyr yn awyddus i gefnogi fy natblygiad, mae llawer ohonyn nhw wedi dilyn llwybr tebyg ac yn deall y rhwystrau a heriau gweithio ac astudio.

“Ers i  fi ddechrau’r brentisiaeth hon , mae fy hyder wedi gwella’n syfrdanol. Roeddwn i’n swil iawn ar y dechrau; roeddwn i bob amser yn cael trafferth wrth ofyn am help neu wrth gyfathrebu â phobl yn yr ysgol neu’r brifysgol.  Mae fy ngweithlu wedi fy helpu i ddod dros hyn oll.  Dwi hefyd yn cael cyfle i rannu fy mhrofiad a dysgu gyda Phrentisiaid Cyfrifeg eraill yn y coleg, ac mae hynny o gymorth mawr i fi. I unrhyw un sy’n meddwl am brentisiaeth, byddwn i’n bendant yn dweud ‘cer amdani’.  Dyma’r penderfyniad gorau fy mod i erioed wedi’i neud o ran fy ngyrfa wir nawr”.

Mae prentisiaethyn ffordd ffantastig o weithio, ennill a dysgu ar yr un pryd ac hefyd yn eich galluogi i ennill profiad ymarferol yn y gweithle gan weithio tuag at gymwysterau a adnabyddir yn y diwydiant.

Mae Hyfforddiant Pathways yn cefnogi unigolion sy’n dechrau yn y byd gwaith am y tro cyntaf neu eisiau camu ymlaen yn ei gyrfa bresennol. Mae eu prentisiaethau yn cynnig llwybr i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd a all fod o fantais i dwf proffesiynol. Mae cannoedd o brentisiaid yn dod o hyd i gyflogaeth barhaol neu gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd yn eu sector o ddewis bob blwyddyn.

Mae hefyd yn cynnig prentisiaethau mewn llwybrau eraill yn cynnwys Crefftau Peirianneg, Crefftau Adeiladu, Peirianneg Sifil, Crefftau Cerbydau Modur, Garddwriaeth, Iechyd Gofal Clinigol, Gofal Plant a Chefnogi Dysgu ac Addysgu. Mae gan eu haseswyr brofiad a gwybodaeth helaeth yn y diwydiant ac maent yn cefnogi cannoedd o brentisiaid y flwyddyn.  Maent wedi sefydlu partneriaethau gyda chyflogwyr arweiniol yng Nghymru ac yn gallu darparu cyfarwyddyd a chymorth i unigolion gyda’u llwybrau gyrfa o ddewis.

Am fwy o wybodaeth am Brentisiaethau, cliciwch y linc isod neu anfonwch e-bost:

pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk

Prentisiaethau