Dysgu Hanfodion Arlwyo: Grŵp Colegau NPTC yn Cynnig Dosbarthiadau am Ddim yng Nghwm Afan

Adult Learners at one of our free Bakery sessions

Mae Grŵp Colegau NPTC yn llawn cyffro i gyhoeddi cyfres newydd o ddosbarthiadau arlwyo sy’n cael eu cynnal yng Nghwm Afan. Bydd y dosbarthiadau rhad ac am ddim hyn yn cael eu cynnal yng ngheginau Canolfan Fenter Croeserw, gan ddechrau ar Fehefin 12fed, rhwng 12pm a 3pm, a byddant yn rhedeg am dair wythnos yn olynol.

Nod y fenter yw rhoi sgiliau arlwyo hanfodol i gyfranogwyr, gan ganolbwyntio ar dechnegau coginio swp. Yn ogystal, bydd mynychwyr yn cael y cyfle i ennill sgôr Hylendid Bwyd Lefel 1 erbyn diwedd y sesiynau.

Mae’r rhaglen hon yn agored i bawb yn y gymuned, waeth beth fo’u profiad coginio blaenorol. Bydd cyfranogwyr yn cael profiad ymarferol mewn amgylchedd cegin proffesiynol, gan ddysgu gan hyfforddwr profiadol Martin White a fydd yn eu harwain trwy hanfodion arlwyo a hylendid bwyd.

Mae Martin White, Rheolwr Arlwyo yng Ngrŵp Colegau NPTC, yn tynnu sylw at fanteision y fenter hon: “Cynlluniwyd y dosbarthiadau hyn nid yn unig i ddysgu sgiliau coginio ymarferol ond hefyd i fagu hyder yn y gegin. Rydym yn gobeithio gweld cyfranogwyr yn mynd â’r sgiliau hyn adref ac yn eu defnyddio i wella eu bywydau bob dydd ac efallai hyd yn oed archwilio cyfleoedd gyrfa newydd.”

Mae’r rhaglen yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned a datblygiad personol. Mae’n cynnig llwyfan i unigolion ddod at ei gilydd, dysgu sgiliau newydd, ac o bosibl agor drysau i gyflogaeth yn y sector arlwyo.

Mae’r fenter hon yn adeiladu ar lwyddiant rhaglenni tebyg a redwyd yn flaenorol gan Grŵp Colegau NPTC, megis y cydweithrediad diweddar gyda Chyngor Sir Powys. Yn y prosiect hwnnw, cynigiwyd dosbarthiadau mewn pump cegin ysgol wahanol i rieni ym Mhowys; nid yn unig i ddatblygu eu sgiliau coginio ond hefyd yn meithrin ymdeimlad brwd o gymuned a gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd.

Ymunwch â ni yng Nghwm Afan a chymerwch y cam cyntaf tuag at feistroli’r grefft o arlwyo. Edrychwn ymlaen at groesawu cyfranogwyr i’r profiad dysgu cyfoethog a phleserus hwn.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i – NPTC Skills Ranger Catering Classes Enquiry Form – EngageCRM UK