Gwobr Cymdeithas Sir Drefaldwyn ar gyfer Addysg Bellach 2024

Newtown College Agriculture student Menna Jones has been celebrating after being announced as this year’s winner of the Montgomeryshire Society Prize for Further Education

Mae Menna Jones, myfyrwraig Amaethyddiaeth Coleg y Drenewydd, wedi bod yn dathlu ar ôl cael ei chyhoeddi fel enillydd Gwobr Cymdeithas Sir Drefaldwyn ar gyfer Addysg Bellach 2024 eleni.

Cyflwynwyd y Wobr gan lywydd presennol y Gymdeithas Dr. Gareth Jenkins mewn seremoni fach a fynychwyd gan rai o deulu a ffrindiau Menna.  Eglurodd Dr. Jenkins ychydig am y Gymdeithas, sy’n sefydliad elusennol wedi’i leoli yn Llundain y mae gan ei haelodau ddiddordeb parhaus yn Sir Hanesyddol Drefaldwyn yng Nghymru. Mae’r sefydliad wedi cefnogi ac annog myfyrwyr yn y Coleg ers tro drwy roi cyfle i gael eu dewis ar gyfer eu gwobr Addysg Bellach.

Magwyd Menna ar fferm defaid a chig eidion yng Nghanolbarth Cymru gan weithio gyda’i rhieni ac ochr yn ochr â’i brodyr hŷn. Mae Menna bob amser wedi mwynhau gweithio ar y fferm deuluol. Ar ôl gadael yr ysgol gyda chanlyniadau TGAU rhagorol, dewisodd astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth.  Mae hi hefyd yn gweithio’n rhan-amser ar fferm da byw ym Meifod, yn ogystal â helpu ar fferm ei theulu ei hun. Mae Menna yn gobeithio parhau â’i haddysg yn y dyfodol gan astudio HND neu Radd mewn Amaethyddiaeth ac yna ennill profiad pellach yn gweithio ar ffermydd yn y DU neu dramor. Mae Menna yn gweld ei dyfodol hirdymor yn Sir Drefaldwyn yn helpu ffermwyr i ddatblygu eu busnes i ddod yn fwy cynaliadwy.

Dywedodd y Darlithydd Amaethyddiaeth Neil Bowden, ‘Mae Menna yn fyfyrwraig hynod weithgar ac mae’n bleser ei chael yn yr ystafell ddosbarth ac allan ar y fferm wrth wneud gweithgareddau ymarferol. Mae Menna bob amser yn cyfrannu at drafodaethau ac yn rhoi ei holl ymdrechion i mewn i weithgareddau yn y ddwy sefyllfa. Mae hi’n haeddu’r wobr hon i gydnabod ei gwaith caled, a dymunwn y gorau iddi yn y dyfodol.’

Diolchodd Rheolwr Coleg y Drenewydd Steve Cass i Dr. Gareth Jenkins o Gymdeithas Sir Drefaldwyn am gyflwyno’r Wobr ac am eu diddordeb ac ymrwymiad parhaus i gefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc yn y Coleg.