Jazz Aberhonddu yn disgleirio trwy’r rlaw

Students playing brass instruments in an ensemble.

Cynhaliwyd Diwrnod Blasu Jazz llwyddiannus arall gan Grŵp Colegau NPTC a Gŵyl Jazz Aberhonddu heb adael i’r tywydd ladd ysbrydion wrth i fwy o fyfyrwyr nag erioed gymryd rhan eleni.

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, roedd y Diwrnod Blasu yn llwyddiant, ac, yn ôl yr arfer, darparwyd Ensemble Jazz Coleg Castell-nedd gerddoriaeth fyw ar gyfer y diwrnod, ond y tro hwn roedd myfyrwyr trin gwallt a harddwch Bannau Brycheiniog ar gael i wneud gwallt a cholur cyfranogwyr ar ben hyn oll. Fel rhan o’u gwaith cwrs, dyluniwyd posteri gan fyfyrwyr o Goleg Y Drenewydd i hyrwyddo’r diwrnod.

Crëwyd amrywiaeth o bosteri gan Bhaigid Ahmed, sef myfyriwr mewn celf a dylunio yng Ngholeg Y Drenewydd er mwyn hybu’r diwrnod trwy ddefnyddio ei ddehongliad ei hun o Jazz: Dywedodd: “Roedd yn wych brofi diwylliant coeth jazz Cymru, ysbrydolwyd y posteri gan jazz y 50au a’r 60au”.

Yn ogystal â’u defnyddio o amgylch Aberhonddu i hyrwyddo’r diwrnod cyn y digwyddiad, cafodd y posteri eu harddangos hefyd ar y sgrîn fawr yn ystod y diwrnod, er mwyn i’r cyhoedd eu gweld.

Roedd y digwyddiad yn rhoi cyfle ffantastig i’r myfyrwyr trin gwallt a harddwch gael blas ar y profiad o wneud gwallt a cholur mewn digwyddiadau mawr. Er bod y myfyrwyr yn cael cyfle i drin cleienetiaid wrth astudio yn y coleg, nid oeddynt wedi gwneud gwallt a cholur llawer o bobl i gyd ar yr un pryd.  Dywedodd y tiwtoriaid: “Mae hyn wedi rhoi cyfle prin i’r myfyrwyr gael profiad o wneud gwallt a cholur ar gyfer digwyddiad fel priodas, rhywbeth na fyddai modd iddynt ei brofi mor gynnar â hyn fel arfer.”

Roedd band jazz Coleg Castell-nedd wrth ei fodd i berfformio eu hoff ddarnau o gerddoriaeth jazz fel Tequila, darn a oedd yn gofyn i’r holl gynulleidfa gymryd rhan. Daeth cymysgedd o bobl i’r digwyddiad nad oeddynt wedi profi Gŵyl Jazz Aberhonddu o’r blaen. Daeth myfyrwyr o sefydliad y cerddor jazz Dionne Bennett o’r enw Tan Cerdd, sydd yn sefydliad nid er elw a sefydlwyd i godi proffeil lleisiau Du yng Nghymru, i roi cynnig ar berfformio yn fyw a chyfarfod cyn yr ŵyl go iawn.

Roedd hyn yn gyfle gwych i’r cyhoedd ymgysylltu â’r Coleg ond hefyd rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr o’r colegau gwahanol gyd-weithio a dod i adnabod ei gilydd.  Dywedodd y myfyrwyr eu bod yn mwynhau cyfarfod a darganfod y safleoedd amrywiol.

Dywedodd cyd-drefnwyr yr ŵyl Lynne Gornall a Roger Cannon, sy’n aelodau o dîm cynllunio BJF2024: “Rydyn ni wrth ein bodd i gael cymorth gan y Coleg unwaith eto eleni  a chafodd ein hannog gan egni ffantastig pawb a gymerodd ran.” Dywedodd Lynne ddiolch i bawb wrth nodi ei bod yn “edrych ymlaen at fwy o gerddoriaeth a hwyl a sbri ym mis Awst.”

I gael mwy o wybodaeth am docynnau ar gyfer yr ŵyl jazz, ewch i’r dudalen Gŵyl Jazz Aberhonddu: https://breconjazz.org

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yng Ngrŵp Coleg NPTC, cliciwch ar y botwm isod i gael gwybod mwy.

Cyrsiau Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio