Caitlin Dilley yn Sicrhau Prentisiaeth Fferyllol o fri yn yr Almaen

Caitlin Dilley Secures Prestigious Pharmaceutical Apprenticeship in Germany

Mae’r fyfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Castell-nedd Caitlin Dilley wedi cael ei derbyn ar gwrs ‘Pharmazeutisch-technische Assistenz’ (Prentisiaeth Cynorthwyydd Technegol Fferyllol) yn y BS-06 Berufliche Schule yn Hamburg. Roedd yn rhaid i Caitlin, sy’n astudio Safon Uwch Almaeneg, Bioleg a Chemeg yng Ngholeg Castell-nedd lenwi ffurflen gais heriol mewn Almaeneg i gael ei derbyn ar y cwrs yn y coleg galwedigaethol. Yna cafodd ei chyfweld ar-lein yn yr iaith darged a arweiniodd at sefyll arholiad hyfedredd iaith ar Lefel B2, a phasiodd gyda marciau oedd bron yn berffaith.

Dyma oedd gan ei thiwtor Almaeneg, Kathleen Phillips, i’w ddweud:

“Rydym yn falch iawn bod Caitlin wedi’i derbyn ar gwrs Prentisiaeth Cynorthwyydd Technegol Fferyllol mewn coleg galwedigaethol yn Hamburg, coleg mawreddog sy’n arbenigo mewn Cemeg, Bioleg, Fferylliaeth ac Amaethyddiaeth. Mae hyn i’w ganmol yn arbennig gan fod Caitlin wedi cychwyn ar ei Chwrs Safon Uwch heb unrhyw sylfaen yn y pwnc ar lefel TGAU.”

Dywedodd Caitlin:

“Rwyf wedi cael cynnig lle ar gwrs prentisiaeth yn Hamburg, yr Almaen yn ddiweddar. Mae’r brentisiaeth ar gyfer rôl Cynorthwyydd Technegol Fferyllol a bydd yn caniatáu i mi gymryd rhan yn weithredol, gan gynnwys delio â chleifion, tra’n astudio gwaith fferyllol ar yr un pryd. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn yr Almaen, roedd angen i mi feddu ar wybodaeth Almaeneg ddigonol ar lefel B2, yn ogystal â thystiolaeth o ymgysylltu ag amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â chysyniadau Bioleg a Chemeg.”

“Diolch byth roeddwn yn gallu cyflawni’r holl ofynion ac fe helpodd fy astudiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC gyda hyn yn fawr. Helpodd y cwrs Almaeneg UG/U2 fi i gael sylfaen yn yr iaith nad oeddwn erioed wedi’i hastudio o’r blaen, a sefydlodd fy ngwersi Bioleg a Chemeg gariad at y maes. Rwy’n gobeithio ennill gwybodaeth a phrofiad trwy’r cwrs hwn ac yn anelu at ddechrau prifysgol yn yr Almaen fel fy ngham nesaf.”