Grŵp Colegau NPTC a Shelter Cymru yn Uno i Frwydro yn erbyn yr Argyfwng Tai a Digartrefedd yng Nghymru

Catherine Lewis: Principal and Gemma Charnock: Vice Principal Corporate and Company Secretary from NPTC Group of Colleges, with Ava Plowright: Fundraising Manager and Neil Davies: Regional Fundraiser, South Wales, Shelter Cymru.

Mewn cam mawr i fynd i’r afael â mater dybryd digartrefedd ac ansicrwydd tai yng Nghymru, mae Grŵp Colegau NPTC a Shelter Cymru wedi dod at ei gilydd fel rhan o bartneriaeth arloesol. Mae’r cydweithio hwn yn gam sylweddol ymlaen yn yr ymrwymiad a rennir i addysg, gwasanaeth cymunedol a chyfrifoldeb cymdeithasol a’i nod yw defnyddio cryfderau ac arbenigedd y ddau sefydliad i ddarparu cymorth cynhwysfawr, addysg ac eiriolaeth i’r rhai y mae ansefydlogrwydd tai yn effeithio arnynt.

Lansiwyd y bartneriaeth yn swyddogol ar gampws Grŵp Colegau NPTC yng Nghastell-nedd lle llofnodwyd memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Amlinellodd Catherine Lewis, Pennaeth Grŵp Colegau NPTC a chynrychiolwyr o Shelter Cymru, eu gweledigaeth ar y cyd a’u mentrau strategol a gynlluniwyd i gael effaith ystyrlon ar yr argyfwng tai yng Nghymru.

Bydd staff a myfyrwyr y Coleg yn helpu i gefnogi’r fenter a fydd yn helpu i gynhyrchu adnoddau hanfodol i gefnogi ymdrechion Shelter Cymru i atal digartrefedd a darparu gwasanaethau hanfodol i’r rhai yr effeithir arnynt.

Yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau a gynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i wirfoddoli eu hamser a’u doniau i gefnogi’r rhai mewn angen, gan feithrin ymdeimlad o empathi a chyfrifoldeb cymdeithasol. Bydd staff yn cael hyfforddiant ar faterion digartrefedd a strategaethau cymorth effeithiol i helpu i roi’r wybodaeth a’r sgiliau iddynt gynorthwyo unigolion sy’n wynebu heriau tai yn well ac i gyfrannu at ymdrechion gwirfoddolwyr.

Dywedodd Catherine Lewis: “Mewn cydweithrediad â Shelter Cymru, byddwn yn darparu cyrsiau hyfforddiant a sgiliau i’r cymunedau a’r unigolion y mae digartrefedd yn effeithio arnynt. Bydd y dysgu hwn yn gwella eu cyflogadwyedd a gwella eu sefyllfaoedd byw, gan gynnig llwybr iddynt at ddyfodol gwell. Gan gyfuno’r cyfleoedd addysgol yn NPTC ac arbenigedd tosturiol Shelter Cymru, gallwn wneud gwahaniaeth pendant ym mywydau’r rhai y mae digartrefedd yn effeithio arnynt.”

Roedd Ava Plowright, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Shelter Cymru yn rhannu’r brwdfrydedd a dywedodd: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda Grŵp NPTC ar gyfer y bartneriaeth newydd gyffrous hon, a fydd yn darparu cefnogaeth y mae mawr ei hangen i’n brwydr yn erbyn digartrefedd ledled Cymru. Bydd y bartneriaeth eang hon yn cynnwys gweithgarwch codi arian, gweithgareddau gwirfoddoli i staff a myfyrwyr, hyfforddiant ac ymgyrchu, a bydd yn cael effaith aruthrol.

Y llynedd, helpodd gwasanaethau Shelter Cymru 22,513 o bobl yng Nghymru i ddod o hyd i gartref, a’i gadw – heb gefnogaeth ein partneriaid, ni allai’r gwaith hanfodol hwn barhau. Diolch yn fawr iawn i bawb yn Ngrŵp NPTC am addo eich cefnogaeth – ni allwn aros i roi cychwyn arni.”