Atgyweirio Cerbydau Modur

Ymrwymiad

Byddwch yn cael y cyfle i gwblhau eich Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel Mynediad mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Byddwch hefyd yn cael profiad gwaith ar leoliad yn y diwydiant Cerbydau Modur ac yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd, gall y rhain gynnwys iechyd a lles personol a datblygiad, cyfathrebu, gwasanaeth cwsmeriaid, deallusrwydd emosiynol, sgiliau cysylltiedig â gwaith, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ymwybyddiaeth ariannol a chwilio am swydd.

Byddwch yn gweithio hyd at 30 awr yr wythnos yn eich lleoliad. Gallwch ennill hyd at £60 yr wythnos yn dibynnu ar nifer yr oriau a weithiwyd.

Darperir lwfans pryd bwyd, a bydd eich costau teithio yn cael eu had-dalu.

Cynnydd

Byddwch yn cael y cyfle i gwblhau’r Dyfarniad Ymwybyddiaeth Cerbyd Trydanol/Hybrid Lefel 1 a Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Byddwch yn gweithio hyd at 40 awr yr wythnos sy’n cynnwys presenoldeb yn y coleg ac amser yn eich lleoliad. Gallwch ennill hyd at £80 yr wythnos yn dibynnu ar nifer yr oriau a weithiwyd a phresenoldeb coleg.

Darperir lwfans pryd bwyd, a bydd eich costau teithio yn cael eu had-dalu.