Seren Rygbi Kayleigh Powell i ymddangos am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd

Kayleigh Powell During a Six Nations Rugby game playing for Wales against England

Mae Menywod Rygbi 7 Bob Ochr Prydain Fawr wedi enwi eu carfan ar gyfer y Gemau Olympaidd ym Mharis yr haf hwn. Mae’r garfan yn cynnwys dwy Gymraes: Jazmine Joyce, sydd wedi cystadlu ddwywaith yn y Gemau Olympaidd a chyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC Kayleigh Powell.

Cwblhaodd Kayleigh Brentisiaeth Lefel 3 mewn Datblygu Chwaraeon gydag Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch yn y Gymuned trwy Hyfforddiant Pathways yng Ngholeg Castell-nedd yn 2018.

Gwnaeth y cefnwr sy’n chwarae ei rygbi clwb yn Bristol Bears chwarae ei gêm gyntaf yn 15 Cymru yn erbyn Iwerddon yn 2019 ac mae ganddi 16 o gapiau dros ei gwlad. Llofnododd Kayleigh ei chytundeb proffesiynol amser llawn cyntaf gydag Undeb Rygbi Cymru ym mis Gorffennaf 2022 ac roedd hefyd yn rhan o dîm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd yr un flwyddyn.

Dewiswyd Kayleigh i fod yn rhan o dîm Rygbi 7 Bob Ochr Cymru a aeth i Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2017 lle cawsant le mewn hanes trwy ennill medal efydd a dod y tîm cyntaf o Gymru i ennill medal yng Ngemau’r Gymanwlad. Yn 2018 cafodd ei dewis i gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 yn Awstralia.

Ar ddiwedd 2022, dewiswyd Kayleigh i gynrychioli Saith Bob Ochr Prydain Fawr am y tro cyntaf yn nigwyddiadau Cyfres Saith Bob Ochr y Byd yn Dubai a Cape Town. Ers hyn mae Kayleigh wedi rhannu ei hamser rhwng Rygbi 7 a 15 ac roedd yn rhan o dîm Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2024. Mae hi bellach ar gytundeb hybrid gydag Undeb Rygbi Cymru a GB Sevens.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru:

“Mae hyn yn gamp wych i Jaz a Kayleigh ac maen nhw’n llwyr haeddu’r cyfle i arddangos eu doniau ar y llwyfan Olympaidd ym Mharis ym mis Gorffennaf. Mae cael dwy chwaraewr rygbi rhyngwladol o Gymru yn cynrychioli Saith Bob Ochr Prydain Fawr yn gamp y dylai’r genedl gyfan fod yn falch ohoni.”

Cyn iddi ennill ei chontract amser llawn gydag URC yn 2022, bu Kayleigh yn gweithio fel Swyddog Cyfranogiad gyda Gweilch yn y Gymuned. Mae’r rôl hon yn rhan o fenter gan URC i helpu i godi’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn rygbi a sicrhau bod cyfleoedd chwarae i bawb, ledled Cymru.

Roedd gan Kayleigh hyn i’w ddweud am weithio’n rhan-amser gyda’r Gweilch yn y Gymuned a cheisio gwireddu ei dyheadau rygbi:

“Roedd yn dipyn o her cael cytundeb rhan-amser tra’n dal yn fy swydd ran-amser gyda Gweilch yn y Gymuned. Roeddwn wrth fy modd â’r swydd honno, yn cael plant i gymryd rhan mewn chwaraeon a rhoi’r cyfleoedd gorau iddynt, ond roeddwn i hefyd eisiau rhoi’r cyfle i mi fy hun chwarae hyd eithaf fy ngallu dros fy ngwlad. Roedd methu â rhoi 100 y cant i mewn i’r ddau beth yn anodd felly drwy allu rhoi popeth i rygbi nawr, gobeithio, bydd fy mherfformiad yn gwella llawer, ac fe alla i gyrraedd lle rydw i eisiau bod.”

Dechreuodd Kayleigh ei Phrentisiaeth yn 2017 gyda Hyfforddiant Pathways, ac mae’n edrych yn ôl yn hapus ar ei chyfnod fel prentis:

“Roedd gwneud prentisiaeth o fudd i mi oherwydd roeddwn i’n gallu dysgu yn y swydd a chael profiad bywyd go iawn ac addasu drwy’r brentisiaeth, gan nodi fy nghryfderau a’m gwendidau – fe wnaeth fy ngalluogi i weithio ar hynny.”

“Fe wnes i fagu llawer o hyder, doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud a rhoddodd cwblhau fy mhrentisiaeth gipolwg i mi ar bwy ydw i fel person a sut gallaf ddysgu a datblygu sgiliau newydd.”

“Os ydych chi’n ystyried gwneud prentisiaeth byddwn yn bendant yn dweud rhowch gynnig arni, does dim byd gennych i’w golli a chewch gyfle i weithio wrth i chi ddysgu a darganfod a ydych chi wir eisiau gwneud y swydd. Roedd cwblhau prentisiaeth wedi rhoi profiadau uniongyrchol i mi o sut beth fyddai fy swydd.

Os hoffech chi ddysgu mwy am Brentisiaethau gyda Hyfforddiant Pathways dilynwch y ddolen isod:

Prentisiaethau