Prentisiaeth Uwch Arwain a Rheoli (Lefel 5)

Mae Diploma NVQ Lefel 5 ILM mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth wedi’i anelu at reolwyr canol sydd â chyfrifoldeb am raglenni ac adnoddau sylweddol. Mae’n datblygu sgiliau mewn cynllunio strategol, newid strategol a dylunio prosesau busnes ochr yn ochr â galluoedd arwain a rheoli craidd fel ysbrydoli cydweithwyr a chyflawni canlyniadau.

Hyd

21 mis

Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol:

  • Diploma NVQ Lefel 5 ILM; Mae’r unedau’n cynnwys: Cyfrannu at Ddatblygu Cynllun Strategol, Dylunio Prosesau Busnes, Rheoli Newid Strategol, Darparu Arweinyddiaeth a Rheolaeth a llawer mwy.
  • Diploma Lefel 5 ILM; Mae’r unedau’n cynnwys: Datblygu Meddwl yn Feirniadol, Arwain Arloesedd A Newid, Gwneud Achos Ariannol, Rheoli Gwelliant, Deall Rôl Rheoli i Wella Perfformiad a llawer mwy.
  • Sgiliau Cymhwyso Rhif SHC (mae eithriadau dirprwyol yn berthnasol).
  • Sgiliau Cyfathrebu SHC (mae eithriadau dirprwyol yn berthnasol).
  • Llythrennedd Digidol SHC.
Beth fydd y cymhwyster yn arwain ato?

Ar ôl cwblhau pob lefel gall dysgwyr symud ymlaen i Ddiploma NVQ Lefel 7 ILM mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth, Tystysgrif Lefel 7 ILM neu Ddiploma mewn Arwain a Rheoli, Gradd mewn Arwain a Rheoli neu gymhwyster tebyg.