Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Castell-nedd wedi profi ei bod yn bosibl llwyddo er gwaethaf pob disgwyl.
Mae Nathan Morrison wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Caerdydd, yn aelod o’r Grŵp Russell mawreddog, i astudio’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar ôl ennill gradd A nodedig mewn Cymdeithaseg, a B mewn Busnes a Hanes Safon Uwch.
Sut bynnag, mae ei daith addysgol ymhell o fod yn hawdd. Treuliodd Nathan y rhan fwyaf o’i flynyddoedd ysgol gyfun yng nghanol y pandemig COVID-19; cafodd drafferth wrth ddelio â dysgu ar-lein gan golli ei ymgyslltiad ag addysg. Ar ôl dau fis yn unig o ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yn yr ysgol, roedd yn rhaid iddo sefyll ei arholiadau TGAU ac ni llwyddodd i gyflawni’r canlyniadau angenrheidiol er mwyn symud ymlaen i gymwysterau Safon Uwch.
Nid oedd hyn oll yn rhoi stop ar Nathan, sylweddolodd fod angen iddo gyflawni cymwysterau Safon Uwch i wireddu ei freuddwyd o astudio Gwleidyddiaeth yn y brifysgol, penderfynodd felly dreulio blwyddyn ychwanegol wrth ymrestru ar y Cyflwyniad i Raglenni Safon UG yn lle cyflawni cwrs arall.
Mae’r Cyflwyniad i Raglenni Safon UG / Lefel 3 yn rhedeg rhwng Medi a Mehefin ac wedi’i ddylunio i’ch ymbaratoi ar gyfer astudio cyrsiau Safon UG neu Lefel 3. Dyma gwrs academaidd a fydd yn eich galluogi i adeiladu ar eich proffil TGAU os nad ydych wedi bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer rhaglenni UG/Lefel 3 eisoes neu os oes angen i chi wella eich proffeil TGAU. Ar ôl cyflawni’r rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 5 TGAU.
Dywedodd Selina Philpin, Dirprwy Bennaeth Academi’r Chweched Dosbarth:
“Rydw i’n hynod o falch o Nathan, rydyn ni’n gallu dathlu dim ei gyfalwniadau academaidd yn unig ond hefyd y gwytnwch a’r penderfyniad anhygoel y mae Nathan wedi eu dangos wrth gael y gorau o bob rhwystr. Mae ei lwyddiant yn dystiolaeth o’i ysbryd di-ffael a does dim amheuaeth gen i fod ei ddyfodol yn mynd i fod yn llawn mor ddisglair.’’
Cliciwch y botwm isod i gael mwy o wybodaeth am y cwrs Cwflwyniad i Raglenni Lefel 3 / Safon UG.