Arolygiad Llwyddiannus yn Cadarnhau Effaith Gadarnhaol Partneriaeth Dysgu Oedolion yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys

Adult Community Learning Logo

Mae partneriaeth a sefydlwyd i ddarparu addysg i oedolion ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys wedi cael ei chanmol fel llwyddiant yn sgil arolygiad diweddar gan Estyn (Arolygiaeth ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru). Mae’r bartneriaeth a elwir yn Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Castell-nedd Port Talbot a Phowys yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywyd eu dysgwyr, yn ôl yr adroddiad.

Wedi’i sefydlu tair blynedd yn ôl, mae’r bartneriaeth yn cynnwys partneriaid arweiniol Grŵp Colegau NPTC. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys gydag Addysg Oedolion Cymru a sefydliadau trydydd sector.  Yn yr adroddiad a ddaeth yn sgil yr arolygiad peilot a gynhaliwyd ym mis Mai, canmolodd arolygwyr Estyn y bartneriaeth am ei effeithlonrwydd, gan nodi bod dysgwyr yn gwneud cynnydd cryf trwy fanteisio ar ystod eang o ddarpariaethau addysgol wedi’u cynllunio’n fanwl.

Mae cynigion addysgol y bartneriaeth yn amrywio o raglenni llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol i TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a chyrsiau galwedigaethol ym meysydd megis weldio,plastro a gofal plant. .Ariennir y rhaglenni gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’r Fenter Lluosi, gan sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad i’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Tynnodd yr arolygwyr sylw at “arweinyddiaeth bwrpasol,” y bartneriaeth gan bwysleisio bod pob partner yn deall eu rolau a’i gyfrifoldebau yn dda,  Canmolodd yr adroddiad hefyd y pwyslais a roddir ar feysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, yn arbennig sgiliau llythrennedd a digidol, trwy gynnig llwybrau mynediad hygyrch at ddysgu galwedigaethol.

Yn eu canfyddiadau, nodwyd yr arolygwyr fod dysgwyr yn defnyddio a datblygu eu sgiliau’n effeithiol, gan gymhwyso eu gwybodaeth at wella eu bywydau bob dydd. At hynny, canmolwyd ymrwymiad staff ar bob lefel gan yr adroddiad, gydag arweinwyr a thiwtoriaid yn dangos synnwyr cryf o ddiben moesol y bartneriaeth ynghyd ag ymrwymiad tuag at ei gweledigaeth.

Mynegodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC falchder mewn cyflawniadau’r bartneriaeth. Dywedodd: “Mae’r gydnabyddiaeth hon gan Estyn yn dilysu gwaith caled ac ymrwymiad pawb sy’n rhan o’r bartneriaeth.  Rydyn ni wrth ein bodd i weld ein hymrwymiad tuag at addysg i oedolion yn cael ei adlewyrchu gan gyflawniadau cadarnhaol ein dysgwyr, Rydyn ni bob amser yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd sy’n hyblyg, perthnasol ac sy’n bodloni anghenion ein cymunedau ac mae’r adroddiad hwn yn cefnogi’r ffaith ein bod ni ar y trywydd cywir.”

Cytunodd Anwen Orrells, Pennaeth Gwella Ysgolion a Dysgu yng Nghyngor Sir Powys ac ychwanegodd: “Mae’n bleser gweld gwaith caled y bartneriaeth yn cael ei nodi fel effeithiol yn yr adroddiad.  Mae’n tanlinellu bod pob partner yn ymrwymedig i weithio gyda’i gilydd i ddarparu darpariaeth addysg i oedolion addas sy’n bodloni anghenion unigolion a chymunedau. Rydyn ni wrth ein bodd i barhau gyda gwaith y bartneriaeth a datblygu addysg i oedolion ym Mhowys hyd yn oed yn fwy.”

Yr un oedd teimladau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wrth i’r Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd ddweud: “Rydyn ni’n hynod o falch bod Estyn wedi adnabod ymrwymiad a gwaith caled ein tîm wrth gefnogi ein dysgwyr. Rydyn ni’n ymrwymedig i fodloni anghenion ein cymunedau ac awn ati i ddarparu cyfleoedd dysgu perthnasol sy’n bodloni’r anghenion hyn,  Rydyn ni’n parhau i ymgysylltu a chefnogi preswylwyr yn cynnwys y rheiny sy’n agored i niwed yn fwyaf oll.”

Fel y mae’r adroddiad yn dangos, mae’r diwylliant o addasu dysgu i fodloni anghenion unigol wedi bod wrth wraidd llwyddiant y bartneriaeth. Disgrifiwyd y tiwtoriaid fel unigolion brwdfrydig a gwybyddus sy’n cyfrannu’n arwyddocaol at gyfraddau llwyddo cyffredinol y dysgwyr.

Bydd y bartneriaeth yn parhau i adeiladu ar ei chyflawniadau, wrth weithio’n agos gyda dysgwyr a phartneriaid i wella cyfleoedd dysgu ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys hyd yn oed yn fwy.