Darlithydd Celfyddydau Perfformio yn Graddio o Goleg Drama Arobryn

Selfie of Lecturer Ruth Calvert

Mae Ruth Calvert, darlithydd yng Ngholeg y Drenewydd, wedi graddio’n ddiweddar o’r Liverpool Institute for Performing Arts (LIPA) gydag MA mewn Ymarfer Proffesiynol: Hwyluso Theatr a Drama gyda Rhagoriaeth.

Mae’r Brifysgol, y cyfeirir ati’n boblogaidd fel LIPA, yn ddarparwr blaenllaw byd-eang o hyfforddiant celfyddydau perfformio a chreadigol ar lefel prifysgol.

Esboniodd Ruth sut roedd y cwrs yn gweddu i’w gofynion dysgu gydag aseiniadau seiliedig ar waith yn bennaf, gyda chyfnodau o hyfforddiant dwys yn LIPA. Roedd hyn yn caniatáu i Ruth gynnal ymarfer proffesiynol tra’n mireinio a datblygu sgiliau ymhellach. Roedd y cwrs yn cynnwys unedau fel hwyluso uwch, safbwyntiau beirniadol, effeithiolrwydd gweithredol, a chyfarwyddo ar gyfer pobl ifanc a gyda hwy.

Dywedodd Ruth: “Tra ar y cwrs cefais gyfleoedd gwych fel addysgu a chyfarwyddo yn LIPA, gweithio gyda mentorai Augusto Boal, a dysgu gan arbenigwyr rhagorol yn y diwydiant. Un uchafbwynt arbennig oedd cael fy llongyfarch gan Syr Paul McCartney ar y llwyfan yn y seremoni raddio.”

“Llwyddais i ymgymryd â’r cwrs hwn diolch i’r anogaeth a chefnogaeth wych a gefais gan dimau datblygu a rheoli staff y Coleg, ac rwy’n llawn cyffro i allu rhannu’r wybodaeth a’r profiad a gefais gyda myfyrwyr y celfyddydau perfformio wrth i ni barhau i ddatblygu’r cwrs a symud i gyfeiriadau newydd a chyffrous.”

Dywedodd Rachel Kehoe, Pennaeth yr Ysgol Celfyddydau Creadigol a Diwydiannau Digidol: “Llongyfarchiadau Ruth ar ennill eich MA mewn Ymarfer Proffesiynol. Mae eich ymroddiad, eich gwaith caled a’ch cyflawniad yn dangos eich angerdd parhaus yn y Celfyddydau ac mae hefyd yn enghraifft wych i’n dysgwyr a fydd yn elwa o’ch gwybodaeth a’ch arbenigedd.”