Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.nptcgroup.ac.uk

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Grŵp Colegau NPTC. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn falch o weithio gyda ‘Recite Me’; arweinydd ym maes technoleg hygyrchedd.

 

https://reciteme.com

Ar frig pob tudalen ar ein gwefan, fe welwch fotwm lansio ar gyfer ein bar offer ‘Recite Me’.

Mae ‘Recite Me’ yn gwneud gwefannau’n hygyrch i ddefnyddwyr a all fod ag anawsterau dysgu, dyslecsia, nam gweledol ysgafn neu Saesneg fel ail iaith. Mae hyn yn effeithio ar 20% o boblogaeth y DU.

Mae recite yn gweithio ar draws POB dyfais a llwyfan. Mae’n cynnig

  • Technoleg sy’n seiliedig ar y cwmwl – dim byd i’w lawrlwytho
  • Cydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd a’r DU
  • Trosiadau testun i leferydd
  • Cyfieithu cynnwys gwefan yn awtomatig i 52 o ieithoedd

Gallwch weld fideo rhagarweiniol i ‘Recite Me’ yma a mynd o amgylch nodweddion y bar offer cynorthwyol yma.

Canllaw Defnyddiwr Recite Me

Recite Me FAQs

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid oes gan bob un o’n delweddau destun ALT.
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
  • Nid yw ffurflenni Google ReCaptcha bob amser yn arddangos yn gywir wrth chwyddo 400% ac ar olwg symudol.
  • nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

E-bost: enquiries@nptcroup.ac.uk

Ffoniwch: 0330 818 8100

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen dau ddiwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni ar y manylion a ddarperir uchod.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl F/fyddar, nam ar y clyw neu nam ar eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni: https://www.nptcgroup.ac.uk/contact

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid oes gan rai delweddau ddewis arall o destun, felly ni all pobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad i’r wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys di-destun).

Rydym yn bwriadu ychwanegu testun amgen ar gyfer pob delwedd ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddiweddaru delweddau yn nhrefn dyddiad. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.

  • Nid yw penawdau’r tabl yn y ddogfen polisi yswiriant PDF wedi’u marcio’n gywir. Mae hyn yn methu WCAG 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd: Mewn tablau. (PDF))

Mae pob PDF sy’n methu â bodloni’r meini prawf hyn bellach wedi’u tynnu oddi ar y wefan.

  • Ar chwyddo 400% ac mewn golwg symudol, nid yw’r blwch captcha yn ail-lifo i ffitio’r dudalen yn gywir. Mae hyn yn methu WCAG 1.4.10 (Reflow: 400% & golygfa symudol)

Mae bathodyn Google reCAPTCHA yn iframe gan Google, felly nid oes modd ei olygu.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

  • Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i’n gwasanaethau, a ffurflenni wedi’u cyhoeddi fel dogfennau Word. Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd rydym yn eu cyhoeddi ac yn berchen arnynt yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 29/11/22. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 05/12/24. Adolygiad nesaf: Mehefin 2025.

Sylwch, mae Copper Bay Digital yn cynnal profion rheolaidd o’n gwefan a’i hygyrchedd.