Mae Isabelle Suter, myfyrwraig Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Ngholeg Afan ar fin cynrychioli Cymru yn 20fed Pencampwriaeth Karate Corea yn Amsterdam.
Dechreuodd taith Isabelle mewn Karate Corea pan ond yn bedair oed, wedi’i hysbrydoli gan ei brodyr hŷn, a oedd hefyd yn cymryd rhan yn y gamp. Mae Karate Corea, fel yr eglura Isabelle, “wedi ei wreiddio mewn traddodiad a diwylliant. Rydym yn dilyn cwricwlwm sy’n dyddio’n ôl i’r 1870au, sy’n cwmpasu ffurfiau traddodiadol, hyfforddiant arfau, paffio, a thechnegau hunanamddiffyn.” Mae ei hymroddiad wedi ei harwain o gystadlaethau cynnar yn saith oed i ddod yn Brif Bencampwr y DU ym mis Mehefin.
Mae’r gystadleuaeth hon, sy’n nodi dau ddegawd, yn dod ag artistiaid ymladd o bob rhan o’r byd ynghyd. Mae Isabelle yn awyddus i ailgysylltu â ffrindiau rhyngwladol ac ennill profiad, gan bwysleisio, “Bonws yn unig yw ennill. Cynrychioli Cymru a sefyll ochr yn ochr ag artistiaid ymladd blaenllaw yw’r hyn sy’n gwneud y cyfle hwn yn wirioneddol arbennig.”
Mae amserlen coleg Isabelle yr un mor feichus â’i hyfforddiant. Mae’n rheoli ei hamser rhwng dosbarthiadau a thair sesiwn hyfforddi yr wythnos, yn aml ynghyd â sesiynau ymarfer yn gynnar yn y bore ac oriau ymarfer estynedig. “Mae strwythur yr hyfforddiant yn fy nghadw’n drefnus, ac mae fy narlithwyr wedi bod yn hynod gefnogol, gan fy helpu i aros ar y trywydd iawn gyda fy astudiaethau tra’n caniatáu amser ar gyfer cystadlaethau,” meddai. Mae pwyslais y Coleg ar iechyd a llesiant yn cyd-fynd â gweithgareddau athletaidd Isabelle, gan sicrhau ei bod yn rhagori yn y ddau faes.
Rhannodd Laura Thomas, Darlithydd a Chydlynydd Cwrs, ei balchder ar ran yr adran gyfan: “Mae Isabelle yn fyfyriwr rhagorol sy’n dangos ymroddiad i bopeth y mae’n ei wneud y tu mewn a’r tu allan i’r coleg. Mae ein hethos adrannol yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol wrth iddynt ddod â sgiliau a phrofiadau sy’n cyfoethogi eu hastudiaethau mewn Gofal Plant. Mae’r adran Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyfan yn falch ei bod yn cynrychioli ei hun, ei gwlad, a’r coleg. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn y gystadleuaeth.”
Ar ôl coleg, mae Isabelle yn bwriadu dilyn gradd mewn Therapi Galwedigaethol, gyda’r nod o gefnogi plant mewn lleoliadau therapiwtig ac adsefydlu. “Rydw i eisiau helpu pobl, yn enwedig plant, i dyfu a ffynnu. Mae fy hyfforddiant wedi dangos i mi bwysigrwydd gwytnwch, gwaith tîm, a chymuned, ac rwy’n gobeithio sefydlu’r gwerthoedd hynny mewn eraill.”
Mae ymrwymiad Isabelle i ragoriaeth, yn ei hastudiaethau ac yn ei champ, yn enghraifft o werthoedd ymroddiad, gwytnwch, a gwaith tîm a hyrwyddir gan y Coleg. Dymunwn bob lwc iddi yn ei chystadleuaeth sydd i ddod a’i dyfodol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cliciwch ar y botwm isod i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant: