Myfyrwyr y Gyfraith Coleg Castell-nedd yn Disgleirio wrth ddod yn Ail yng Nghystadleuaeth Ffug Dreial y Bar Dinasyddion Ifanc

Law Students outside Cardiff Crown Court after the Mock Bar Trail competition

Llwyddodd myfyrwyr Safon U y Gyfraith o Goleg Castell-nedd i sicrhau’r ail safle yng Nghystadleuaeth Ffug Dreial y Bar Dinasyddion Ifanc yn ddiweddar, sef yr ail flwyddyn yn olynol iddyn gipio’r ail safle y tu ôl i Ysgol Trefynwy. Gan gystadlu ochr yn ochr â saith ysgol arall, bu myfyrwyr Coleg Castell-nedd yn arddangos talent, paratoi a gwaith tîm eithriadol, gan ddod â balchder i’w coleg a thynnu sylw at ymroddiad myfyrwyr a staff.

Ers dechrau’r flwyddyn academaidd, mae’r myfyrwyr hyn wedi neilltuo oriau di-ri i baratoi ar gyfer y rhagbrofion rhanbarthol. Cawsant eu harwain gan dîm ymroddedig y gyfraith a’u mentora gan Mari Watkins, bargyfreithiwr proffesiynol o 9 Plas y Parc, Caerdydd. Mae Cystadleuaeth Ffug Dreial y Bar yn rhoi cyfle gwerthfawr i bobl ifanc ddeall effaith y gyfraith ar fywyd bob dydd a chael profiad uniongyrchol gyda’r system farnwrol.

Canmolodd Karen Hill, Darlithydd yn y Gyfraith a chyfreithiwr nad yw’n ymarfer, ymrwymiad a gwaith tîm y myfyrwyr: “Rwy’n hynod falch o bob myfyriwr. Roedden nhw’n wych. Boed yn gweithredu fel bargyfreithwyr, tystion, tywyswyr, clercod llys, neu reithwyr, cyfrannodd pob myfyriwr at wneud y profiad hwn yn hynod.”

Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn helpu myfyrwyr i hogi sgiliau meddwl beirniadol, dadlau a siarad cyhoeddus, gan hybu eu hunanhyder a’u cyflogadwyedd. Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ymgysylltu â gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r system gyfreithiol a llwybrau gyrfa posibl ynddi.

Mynegodd Ellen Forde Spender, Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe a mam y cyfranogwr Imogen Spender, ei diolchgarwch, gan ddweud: “Mae athro gwych yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr. Cafodd fy merch brofiad anhygoel o weithredu fel bargyfreithiwr mewn cystadleuaeth y gyfraith a gynhaliwyd yn Llys y Goron Caerdydd. Diolch yn fawr iawn i’w darlithydd, Karen Hill, am drefnu’r digwyddiad, cefnogi’r myfyrwyr wrth iddynt baratoi, a rhoi ei dydd Sadwrn i fynd gyda nhw.”

Mae’r gystadleuaeth hon wedi cyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr Coleg Castell-nedd o’r gyfraith a chyfiawnder, gan eu harfogi â mewnwelediadau a sgiliau a fydd o fudd iddynt yn eu teithiau academaidd a phroffesiynol.