Llwyddiant ar gyfer Prentis sy’n Ennill Gwobr Lifrai

Student Anakin Males being presented with his Livery Award.

Mae Anakin Males sef Prentis mewn Gwaith Coed Lefel 3 yng Ngholeg Y Drenewydd wedi derbyn Gwobr Prentis Adeiladwaith 2024 gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Cyflwynwyd y wobr i Anakin gan Yr Athro John Solbe a Dr Rosie Solbe o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru. Roedd Victoria Lloyd Jones sef Uwch Swyddog Hyfforddiant Pathways, Clare Ward sef Swyddog Prentisiaethau Anakin a’r Tiwtor Gwaith Coed Nigel Ogden, ochr yn ochr â mam Anakin. Iris Males, hefyd yn westeion yn y seremoni a gynhaliwyd yng Ngholeg Y Drenewydd,

Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru 30 mlynedd yn ôl i gefnogi doniau yng Nghymru ac mae’n hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth a thechnoleg, yn arbennig sgiliau a gweithgareddau proffesiynol cysylltiedig yng Nghymru. Mae’r Gwobrau Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn anelu at ddatblygu doniau pobl ifanc ledled Cymru.

Cyflawnodd Anakin Ragoriaeth mewn Adeiladwaith Lefel 3. Adeiladwaith ar Safle. Roedd yn gweithio ar gyfer Montgomeryshire Homes, Y Trallwng wrth gyflawni ei brentisiaeth ac aeth ymlaen wedyn i weithio gyda Carpentry4Homes yn West Sussex.

Dywedodd Clare Ward, Asesydd Pathways Grŵp Colegau NPTC: “Mae Anakin wedi bod yn ddysgwr anhygoel yn dangos ei alluoedd ymarferol ac academaidd yn y coleg ac ar safleoedd ac wedi ennill Rhagoriaeth yn ei gymwysterau. Fe’I dewiswyd ar gyfer y wobr hon am ei fod bob amser wedi bod yn awyddus i gyflawni i’r eithaf a bob amser wedi bod yn fyfyriwr ardderchog, yn sefyll allan ymhlith ei gyfoedion. Mae Anakin hefyd yn mwynhau gweithio gyda chyfrifiaduron ac wedi datblygu ei raglenni eu hun. Ac felly’n profi ei fod yn enillydd teilwng drwyddi draw.”