Gwyntoedd Teg: Grŵp NPTC yn Sicrhau Cyllid ar gyfer Arloesedd Ar y Môr Arnofiol drwy gronfa Sbarduno’r Gadwyn Gyflenwi Ystad y Goron

The Crown Estate and Supply Chain Accelerator Logogs

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi llwyddo i sicrhau cyllid drwy rownd gyntaf cronfa Sbarduno’r Gadwyn Gyflenwi Ystad y Goron.

Mae’r gronfa Sbarduno yn gronfa £50m a grëwyd i gyflymu a dileu risg o ddatblygiad cyfnod cynnar prosiectau cadwyn gyflenwi’r DU sy’n gwasanaethu’r sector ynni gwynt ar y môr.

Gyda’r cyllid hwn, bydd Grŵp Colegau NPTC yn cychwyn ar astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr yn canolbwyntio ar ddadansoddiad y farchnad o ofynion hyfforddi ac anghenion y diwydiant.

Bydd y cam cyntaf hollbwysig hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer creu cyfleuster Academi Sgiliau Ar y Môr Arnofiol (FLOW) ym Mhort Talbot. Nod yr Academi yw bod yn hyb ar gyfer datblygu addysg a sgiliau, gan roi i’r gweithlu yr arbenigedd sydd ei angen i ffynnu yn y sector ynni adnewyddadwy.

Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yn y rownd gyntaf yn cynnwys y rhai sy’n galluogi platfformau gwynt arnofiol, systemau angori a chadwyni, cyfleusterau gweithredu a chynnal a chadw, cyfleusterau profi, a mentrau sy’n cefnogi trosglwyddo sgiliau i’r diwydiant newydd hwn.

“Mae’r cyllid hwn yn gam hanfodol ymlaen wrth osod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes ynni adnewyddadwy,” meddai Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC.

“Ein nod yw sicrhau bod cymunedau a diwydiannau lleol yn gwbl barod i harneisio’r cyfleoedd a gyflwynir gan y chwyldro gwynt ar y môr arnofiol.” Mae gan y Môr Celtaidd botensial aruthrol ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymrwymo i chwarae rhan ganolog yn nhaith y rhanbarth tuag at ddyfodol ynni cynaliadwy. Trwy ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a chydweithio â rhanddeiliaid yn y diwydiant, mae’r Coleg yn anelu at gyfrannu at greu cadwyn gyflenwi gadarn a gweithlu medrus sy’n barod ar gyfer heriau’r sector FLOW.”

Dywedodd Will Apps, Cyfarwyddwr Strategaeth Ynni Gwynt ar y Môr yn Ystad y Goron: “Mae’n wych i allu cyhoeddi’r sefydliadau llwyddiannus sy’n derbyn cyllid trwy ein cronfa Sbarduno’r Gadwyn Gyflenwi. Rydym wedi cael ein calonogi gan lefel y diddordeb y mae’r gronfa Sbarduno wedi’i greu yn y farchnad ac rydym wrth ein bodd â safon ac amrywiaeth y prosiectau y byddwn yn eu cefnogi.

“Diben y gronfa Sbarduno yw helpu i dyfu a meithrin cadwyn gyflenwi ddomestig y DU, ffactor hollbwysig os yw’r DU am wireddu potensial ynni gwynt ar y môr wrth gyflawni ei nodau pŵer glân a sero net uchelgeisiol, gan gyfrannu at swyddi a ffyniant mewn cymunedau ledled y DU.”