Diploma Lefel 2 CACHE ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Amser Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd am weithio neu sydd newydd ddechrau gweithio yn y gweithlu plant a phobl ifanc. Fe’i cynlluniwyd i helpu dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt wrth weithio o dan oruchwyliaeth gyda phlant a phobl ifanc o’u geni hyd nes y byddant yn 19 oed.
Isafswm o 3 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys naill ai Saesneg neu Fathemateg. Mae’r cwrs gofal plant hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gweithio neu sydd newydd ddechrau gweithio yn y gweithlu plant a phobl ifanc. Fe’I dyluniwyd i helpu dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt wrth weithio dan oruchwyliaeth gyda phlant a phobl ifanc o adeg geni hyd at 19 oed.
Gallwch ddewis ceisio cael cyflogaeth yn syth fel cynorthwyydd nyrsio, cynorthwyydd creche, cynorthwyydd Cylch Meithrin, gweithiwr gofal plant y tu allan i’r ysgol neu gynorthwyydd cylch chwarae, neu gallech gamu ymlaen i gwrs arall megis y Diploma, NCFE CACHE L3 ar gyfer CCLD neu BTEC L3 HSC.