Telerau ac amodau safonol ar gyfer eich cynnig o le ar raglen Addysg Uwch
Mae’r telerau ac amodau hyn yn cynrychioli cytundeb rhyngoch chi a’r Coleg, os byddwch yn penderfynu derbyn ein cynnig o le. Eich cyfrifoldeb chi yw eu darllen a gwneud yn siŵr eich bod yn eu deall. Gofynnwch os oes unrhyw beth yn aneglur.
- Os byddwch yn derbyn ein cynnig o le, mae gennych yr hawl i ganslo eich contract gyda’r Coleg o fewn 14 diwrnod. Bydd y cyfnod hwn yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad y byddwn yn cael hysbysiad ffurfiol trwy gyfleuster Tracio Ymgeiswyr UCAS/ neges e-bost i’r Swyddfa Dderbyn eich bod yn derbyn eich cynnig yn gadarn, boed hwnnw’n gynnig amodol neu ddiamod. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw flaendaliadau a dalwyd fel arfer oni bai: eich bod yn canslo eich contract o fewn y cyfnod hwn, yn methu â bodloni amodau eich cynnig, neu (os yn berthnasol) yn methu â chael fisa. Mae’n rhaid i chi ein hysbysu ynghylch eich penderfyniad yn ysgrifenedig (trwy e-bost neu lythyr). Os byddwch yn penderfynu canslo eich contract gyda’r Coleg, ac felly’n gwrthod eich cynnig o le, ni fyddwch yn gallu newid eich meddwl eto.
- Os byddwch yn cofrestru gyda’r Coleg fel myfyriwr, bydd yn ofynnol i chi gytuno i ymlynu wrth statudau, ordinhadau a rheoliadau’r Coleg sydd mewn grym ar y pryd.
- Bydd eich lle’n cael ei gadarnhau dim ond os ydych yn bodloni holl amodau eich cynnig. Ceir amgylchiadau lle gall y Coleg amrywio’r amodau a bennwyd eisoes os yw hynny o fudd i chi, e.e. i gywiro gwall ar ein rhan ni. Gall y Coleg ystyried eich derbyn hefyd os ydych wedi methu â bodloni amodau eich cynnig o drwch blewyn neu er mwyn ystyried amgylchiadau lliniarol. Ceir manylion pellach yn y Polisi Derbyn.
- Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â phob cais am wybodaeth neu ddogfennaeth i ategu eich cais erbyn y terfyn amser a nodwyd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw geisiadau am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol mewn perthynas ag euogfarn droseddol.
- Pan fyddwch yn ymgeisio bydd yn ofynnol i chi ddangos tystiolaeth foddhaol o’ch cymwysterau blaenorol (gan gynnwys cymwysterau Iaith Saesneg megis IELTS). Os gofynnir, bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi copi neu sgan eglur a darllenadwy o ddogfen(nau) (g)wreiddiol i’r Tîm Derbyn. Os byddwch yn llwyddo i fodloni amodau eich cynnig gofynnir i chi ddangos y dogfennau gwreiddiol pan fyddwch yn dod i gofrestru.
- Os yw’n ofynnol i chi gael fisa i astudio yn y DU mae’n rhaid i chi gydymffurfio, erbyn y terfynau amser a bennir, â’r holl geisiadau am wybodaeth a dogfennaeth er mwyn i’r Coleg ystyried cefnogi eich cais am fisa. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych adnoddau ariannol digonol i ateb gofynion y Swyddfa Gartref ond gall y Coleg ofyn am dystiolaeth o hyn cyn cytuno i roi Tystysgrif Derbyn i Astudio (CAS). Ceidw’r Coleg yr hawl i wrthod rhoi Tystysgrif Derbyn i Astudio pan nad yw wedi’i argyhoeddi y bydd eich cais am fisa’n llwyddiannus.
- Efallai y bydd yn ofynnol i chi ddarparu tystiolaeth i brofi pwy ydych cyn, yn ystod neu ar ôl y broses cofrestru, fel rhan o’n cyfrifoldeb ni i sicrhau bod gan fyfyrwyr hawl i astudio yn y DU. Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â phob cais rhesymol erbyn y terfynau amser a bennwyd. Os byddwch yn methu â darparu tystiolaeth foddhaol o’ch hawl i astudio yn y DU, rydym yn cadw’r hawl i dynnu eich cynnig yn ôl a byddwn yn ystyried bod unrhyw gofrestriad wedi hynny’n ddi-rym.
- Caiff eich cynnig o le ac unrhyw wahoddiadau wedi hynny i gofrestru eu gwneud ar y sail bod yr wybodaeth a gyflenwyd yn eich papurau ymgeisio’n wir, yn gyflawn ac yn wreiddiol (h.y. eich bod wedi ysgrifennu elfennau allweddol megis y datganiad personol eich hun), a’ch bod yn meddu ar y cymwysterau yr ydych yn honni eich bod yn meddu arnynt. Mae’n rhaid i chi roi hanes addysgol cywir i ni fel y gofynnir, gan gynnwys eich holl astudiaethau blaenorol a’u lleoliad. Os ydych wedi mynychu sefydliad addysg uwch arall yn flaenorol, byddwn wastad yn ei gwneud yn ofynnol cael geirda gan y Coleg neu’r coleg hwnnw, gan gynnwys astudiaethau blaenorol yn y Coleg. Os yn briodol, gallwn hefyd ei gwneud yn ofynnol eich bod yn darparu manylion cyflogaeth ac mae’n rhaid i’r rhain fod yn gywir ac yn wiriadwy. Mae cynigion hefyd yn seiliedig ar y ffaith bod geirdaon yn ddiledryw ac wedi’u hysgrifennu’n annibynnol gan y canolwr ei hun. Byddwn yn ystyried bod y cynnig ac unrhyw gofrestriad wedi hynny’n ddi-rym os canfyddir unrhyw bryd eich bod wedi camgyfleu unrhyw agwedd ar eich amgylchiadau neu os byddwn yn canfod bod unrhyw agwedd ar eich cais yn waith gan rywun heblaw chi neu nad yw’n ddiledryw.
- Os byddwch yn cael euogfarn droseddol wedi i gynnig gael ei wneud neu os bydd newid yn eich amgylchiadau’n golygu nad ydych yn ateb gofynion penodol eich rhaglen mwyach, ceidw’r Coleg yr hawl i dynnu’r cynnig o le yn ôl.
- Os oes gennych anghenion penodol o ran cymorth neu anableddau penodol a allai effeithio ar eich gallu i gyflawni’r cyfan neu ran o’ch rhaglen astudio, fe’ch anogir i ddatgelu’r rhain a’u trafod yn llawn gyda Thîm Cymorth i Fyfyrwyr y Coleg a’r adran academaidd berthnasol. Bydd y Coleg yn gwneud yr hyn a all er mwyn gwneud pob addasiad rhesymol. Ceir gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar ein tudalennau Sgiliau Astudio. Bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i ystyried eich cais. Mae gan y Coleg bolisi Ffitrwydd i Astudio a fydd yn gymwys os byddwch yn ymuno â’r Coleg ac yn wynebu anawsterau gyda’ch iechyd neu eich anghenion o ran cymorth.
- Gall yr wybodaeth a ddarperir yn eich cais gael ei defnyddio yn ystod y cyfnod derbyn i chi gael manylion gwasanaethau a chymorth y Coleg a hefyd, os caiff eich cynnig o le ei gadarnhau, cyfathrebiadau gan Undeb y Myfyrwyr a’r ysgol academaidd. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti allanol arall er mwyn iddynt farchnata cynhyrchion neu wasanaethau i chi. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn defnyddio meddalwedd rheoli e-bost trydydd parti i gefnogi ein systemau cyfathrebu mewnol ni ein hunain. Os caiff eich cynnig o le ei gadarnhau, bydd y data sy’n gysylltiedig â’ch cais yn cael ei gadw gan y Coleg, ei ddefnyddio at ddiben prosesu eich cofrestriad a’i ychwanegu at eich cofnod myfyriwr wedi i chi gofrestru. Bydd unrhyw ddata sensitif (megis gwybodaeth feddygol neu fanylion unrhyw euogfarnau troseddol) yn cael ei drin a’i storio dim ond yn unol â’r egwyddorion a deddfwriaeth diogelu data perthnasol. Efallai y bydd angen rhannu peth gwybodaeth gyda nifer cyfyngedig o staff penodol yn y Coleg at ddibenion gweinyddol neu i roi cymorth i chi gyda’ch astudiaethau.
- Bydd y Coleg yn codi’r ffioedd dysgu priodol a hysbysebir ar gyfer eich rhaglen astudio. O ran sut a phryd y caiff eich ffioedd eu talu, bydd hynny’n dibynnu ar y dull talu neu ai chi neu noddwr sy’n talu’r ffi. Ceidw’r Coleg yr hawl i weithredu polisïau codi tâl gwahanol ar gyfer myfyrwyr a gyllidir yn wahanol. Os byddwch yn gadael eich astudiaethau’n gynnar, neu’n eu hatal dros dro, am ba bynnag reswm, bydd angen i chi wirio sut y mae hyn yn effeithio eich atebolrwydd am ffioedd.
- Os mai chi neu noddwr sy’n talu eich ffioedd dysgu, telir y ffi yn flynyddol. Wrth gofrestru gofynnir i chi naill ai dalu’r ffi neu ddarparu ymgymeriad ysgrifenedig boddhaol gan eich noddwr (gan gynnwys enw a chyfeiriad y sawl y dylid cyfeirio anfonebau ato neu ati) y bydd eich ffioedd yn cael eu talu. Gallwch ddewis eu talu mewn rhandaliadau neu drwy ddebyd uniongyrchol. Os bydd eich noddwr yn methu â thalu eich ffioedd dysgu, byddwch chi’n dod yn atebol yn bersonol am y costau. Gall y Coleg ddiddymu eich mynediad at gyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadurol os nad yw unrhyw daliadau y cytunwyd arnynt yn cael eu gwneud erbyn y dyddiad talu. Gall eich statws mewnfudo gyfyngu ar eich mynediad at ddarlithoedd, e-bost, llyfrgelloedd a chyfleusterau cyfrifiadurol neu achosi oedi cyn i chi gael mynediad atynt hefyd (er enghraifft, lle mae’n ofynnol i chi gael fisa newydd mewn perthynas ag astudio yn y Coleg yn hytrach na sefydliad blaenorol yn y DU). Nid oes unrhyw ostyngiad neu ad-daliad yn ôl cyfran o’ch ffioedd dysgu’n cael ei wneud lle cyfyngir ar fynediad at ddarpariaeth dysgu a chyfleusterau neu lle caiff mynediad ei atal yn y ffordd yma.
- Os dyfernir unrhyw fath o gymorth ariannol i chi gan y Coleg (megis bwrsariaeth neu ysgoloriaeth) byddwch yn cael telerau ac amodau manwl ar gyfer y cymorth hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw darllen y rhain cyn derbyn unrhyw ddyfarniad.
- Pan fyddwch yn derbyn ein cynnig o le, rydych yn derbyn ein penderfyniad mewn perthynas â’ch statws o ran ffioedd cartref neu dramor. Gwneir y penderfyniad hwn ar sail y dystiolaeth sydd ar gael ar y pryd. Unwaith y byddwch wedi cofrestru dim ond dan amgylchiadau penodol ac eithriadol y gellir newid penderfyniadau. Os ydych yn meddwl bod ein penderfyniad ni’n anghywir, mae’n rhaid i chi gwestiynu hyn cyn cofrestru.
- Chi sy’n gyfrifol am eich treuliau byw eich hun, ac mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych fynediad at y cyllid neu’r benthyciad myfyriwr angenrheidiol cyn dechrau eich rhaglen astudio.
- Mae’r Coleg yn addo gwneud pob ymdrech rhesymol i ddarparu eich Rhaglen Astudio yn unol â’r wybodaeth a nodir yn y prosbectws perthnasol a llawlyfr y cwrs/rhaglen. Bydd mân newidiadau i gwrs neu raglen yn cael eu dwyn i’ch sylw ar ddechrau’r rhaglen. Gall fod achlysuron prin pan fydd amgylchiadau nas rhagwelwyd neu nad oes modd eu hosgoi (e.e. bod aelod allweddol o staff yn gadael y Coleg neu fod recriwtio niferoedd isel i raglen yn golygu nad yw’n hyfyw mwyach) yn golygu bod angen gwneud newidiadau sylweddol i raglen neu ei thynnu’n ôl yn gyfan gwbl rhwng gwneud y cynnig o le a’r broses gofrestru. Er bod hyn yn annhebygol, os bydd yn digwydd bydd y Coleg yn eich hysbysu cyn gynted â phosibl.
- Nid oes unrhyw delerau yn y cytundeb rhyngoch chi a’r Coleg yn orfodadwy dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 gan unrhyw berson nad yw’n barti i’r cytundeb.
- Llywodraethir y cytundeb rhyngoch chi a’r Coleg gan gyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae’n ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig Llysoedd Cymru a Lloegr.