Polisi Amgylcheddol
Mae Grŵp Colegau NPTC yn sefydliad Addysg Drydyddol ac Bellach wedi’i leoli ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r Coleg yn cynnig dros 370 o gyrsiau i ddarparu ar gyfer 12,257 o ddysgwyr yn rhan amser neu’n llawn amser ac yn cyflogi dros 800 o aelodau staff. Mae adeiladau Grŵp Colegau NPTC yn cynnwys wyth campws sydd ag arwynebedd gros o 42.191m² ac sydd wedi’u lleoli ar draws tair (3) sir: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r Coleg yn cynnig rhaglen gyffrous ac eang o gyrsiau i weddu i’r mwyafrif o anghenion naill ai’n rhan-amser neu’n llawn amser ac yn cynnwys: Dysgu Oedolion; Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu; Rheolaeth Busnes ac Astudiaethau Hamdden; Arlwyo, Pobi a Lletygarwch; Cyfrifiadura a TG; Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig; Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio; Peirianneg; Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant; Garddwriaeth, Trin Gwallt a Harddwch; Mathemateg a Gwyddoniaeth; Chwaraeon a Gwasanaeth Cyhoeddus; Astudiaethau Cymdeithasol ac Ieithoedd; ac Astudiaethau Cyn-Alwedigaethol.
Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn cydnabod bod ein holl weithgareddau yn cael rhyw fath o effaith amgylcheddol ar lefelau lleol, rhanbarthol a byd-eang. Felly, rydym yn ymdrechu i gyflawni pob gweithgaredd mewn ffordd sy’n amgylcheddol gyfrifol, gan fabwysiadu dull cynaliadwy o’n holl weithrediadau i leihau unrhyw effeithiau andwyol y maent yn eu cael ar yr amgylchedd. Ein nod yw cyflawni hyn trwy:
- Gosod targed lleihau ynni blynyddol o 5% yn unol ag amcanion Amgylcheddol Llywodraeth Cymru
- Gwneud defnydd mwy effeithlon o’n hadnoddau naturiol
- Gwell rheolaeth, monitro ac asesu defnydd ynni a dŵr trwy systemau monitro mesuryddion uwch
- Mentrau ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff / myfyrwyr
- Gweithredu argymhellion Adolygiad Rheoli Gwastraff 2005 sy’n nodi y gellir ailddefnyddio ac ailgylchu hyd at 85% o wastraff
- Lleihau ein hallyriadau i’r awyr trwy ein Cynllun Rheoli Teithio
Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym hefyd yn ymroddedig i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â deddfwriaeth amgylcheddol, atal llygredd ac rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor o wella’r amgylchedd yn barhaus. Rydym yn ymdrechu i gyflawni ein hymrwymiadau trwy:
- Monitro ac adolygu perfformiad amgylcheddol Grŵp Colegau NPTC, gan wneud gwelliannau a diwygiadau lle bo angen
- Cynnal gwiriadau rheolaidd i sicrhau cydymffurfiad cyfreithiol llawn
- Mae Cynllun Parodrwydd ac Ymateb Brys yn helpu i atal llygredd yn y Coleg, gan sicrhau bod citiau gollwng o’r maint cywir yn hawdd eu cyrraedd
- Codi ymwybyddiaeth staff trwy gyrsiau hyfforddi a chyfarfodydd adrannol ar faterion amgylcheddol (eitem sefydlog ar yr agenda)
Bydd Grŵp Colegau NPTC yn ymdrechu i sicrhau bod ein Polisi Amgylcheddol yn cael ei weithredu a’i gydymffurfio’n llawn a bydd yn diweddaru’r Polisi yn flynyddol fel rhan o’r adolygiad amgylcheddol blynyddol o System Rheoli Amgylcheddol Grŵp Colegau NPTC.
Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi
Mae Grŵp Colegau NPTC yn Bartneriaid balch o Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi, gan weithio ar y cyd â dros 200 o arweinwyr diwydiant eraill i yrru sector yr amgylchedd adeiledig i ddyfodol mwy cynaliadwy. Mae’r Ysgol yn blatfform dysgu rhithwir AM DDIM ar gynaliadwyedd sydd wedi ennill gwobrau, gyda’r nod o uwchsgilio’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant.
Fel Partner rydym yn gallu ymgysylltu, gwella, a monitro sgiliau cynaliadwyedd a gwybodaeth ein cadwyn gyflenwi a’n gweithlu, a chydweithio â’n cleientiaid a’n cyfoedion i yrru cynnwys cynaliadwyedd. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ariannu’r Ysgol i alluogi ein cadwyn gyflenwi i gael mynediad at y cynnwys am ddim, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflwyno prosiectau mwy cynaliadwy gyda ni.