Bydd y rhaglen hon yn gweddu i fyfyrwyr sy’n dymuno datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am yr amgylchedd busnes modern. Mae modiwlau’n cynnwys: Datblygiad Academaidd a Phroffesiynol, Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes, Gwaith ac Ymddygiad Sefydliadol, Economeg, Y Gyfraith a Rheoleiddio, Sylfeini mewn Marchnata a Rheoli Gwybodaeth Ariannol.
Mae'r meini prawf mynediad yn nodi cynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais ar sail unigol sy'n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cynnig cysylltwch â'n Tîm Derbyn. Cynnig nodweddiadol: 2 Safon Uwch â gradd D neu broffil MP/PPP o gymhwyster Lefel 3 BTEC a thri TGAU â Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth).
Y llwybr datblygiad cydnabyddedig ar gyfer y cwrs hwn yw'r BA (Anrh) Astudiaethau Busnes - gradd atodol. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau busnes, er enghraifft: rheoli busnes, ymgynghoriaeth, cyfrifyddu, ymchwil defnyddwyr, dadansoddi ystadegol, marchnata a rheoli adwerthu.
Fel arfer bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau ac aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi gamu ymlaen, ac fel arfer byddwch yn sefyll arholiadau ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.