Crynodeb o’r cwrs
Mae’r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am ddulliau a systemau amaethyddol wedi’u cefnogi gan ddulliau rheoli cyfredol.
BTEC / Cymhwyster C&G Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth, gradd Teilyngdod/Rhagoriaeth. TGAU Gradd A - C mewn Mathemateg a Saesneg yn ogystal â pherfformiad cryf TGAU lefel Uwch mewn pwnc perthnasol.
Camu ymlaen i astudiaethau Lefel 6 (Gradd) mewn pwnc cysylltiedig. Symud ymlaen i swyddi rheoli addas o fewn i’r diwydiannau seiliedig ar dir. Symud ymlaen i weithredu Busnes Gwledig.
Gall modiwlau blwyddyn un gynnwys: Busnes a’r Amgylchedd Busnes, Cyfrifyddu Rheoli, Rheoli Prosiect Llwyddiannus,Egwyddorion Cynhyrchu Da Byw, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Maeth Anifeiliaid, Planhigion a Chnydau.
Gall modiwlau blwyddyn dau gynnwys: Cyfrifyddu Ariannol Uwch, Prosiect Ymchwil, Cynhyrchu a Rheoli Porthiant, Magu Anifeiliaid a Geneteg, Mentrau Amgen, Profiad Gwaith, Rheolaeth.
Darlithoedd, Astudiaethau Achos, Prosiectau, Ymweliadau, Cwblhau aseiniadau ysgrifenedig/ymarferol, Cyflwyniadau, Dyddiadur myfyriol, Trafodaethau, Ymchwil Annibynnol.