Mae cyrsiau AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) a gynigir yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ac i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd cyfrifyddu. Mae cyrsiau’n cynnwys tair lefel.
Mae pob lefel yn cynrychioli cymhwyster ynddo’i hun. Mae myfyrwyr yn derbyn tystysgrif ar gyfer pob lefel a gyflawnir. Mae angen cofrestru gydag AAT a thelir cost hyn yn uniongyrchol i’r corff proffesiynol.
Ymhlith yr unedau mae Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol, Cyfrifon Rheoli (gan gynnwys Taenlenni), Ymwybyddiaeth Busnes a Phrosesau Treth i Fusnesau a fydd yn darparu dealltwriaeth dda i’r gweithiwr cyfrifyddu newydd neu’r rhai sy’n dymuno mynd i mewn i’r amgylchedd cyfrifyddu.
Mae angen gwybodaeth flaenorol am Lefel 2 neu brofiad / cymwysterau perthnasol i fynd i'r lefel astudio hon.
Mae'r cymwysterau hyn wedi'u bwriadu ar gyfer dysgwyr dros 16 oed mewn ystod eang o leoliadau ond yn bennaf yn gweithio mewn lleoliad cyfrifyddu neu ariannol. Dilyniant i Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg.
Wedi'i gyflwyno trwy gydol y flwyddyn academaidd am 1 diwrnod yr wythnos.
Mae'r cwrs hwn yn rhedeg Coleg Castell-nedd - Dydd Llun rhwng 9:00 am a 17:00 pm
Cynigir y sesiynau hyn wyneb yn wyneb o Gastell-nedd neu o bell, gydag arholiadau yng Nghastell-nedd, Aberhonddu a'r Drenewydd.
Arholiadau ar-lein wedi'u gosod yn allanol ynghyd ag arholiad synoptig sy'n cynnwys pob maes astudio.