Bydd y rhaglen hon yn siwtio myfyrwyr sy’n dymuno datblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sy’n berthnasol i weithio a^ phlant. Mae hyn yn cynnwys nyrsys, ymwelwyr iechyd, addysgwyr blynyddoedd cynnar, gweithwyr meithrinfeydd yn y sectorau cyhoeddus ac annibynnol, gweithwyr cymdeithasol a phobl sy’n gweithio yn y sectorau cy awnder ieuenctid a gorfodi’r gyfraith.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol De Cymru.
Gellir cael mynediad i gyrsiau atodol drwy gwblhau HND neu Radd Sylfaen (GS) mewn Astudiaethau Busnes yn llwyddiannus gyda phrof l pasio. Os oes gennych HND neu GS mewn maes pwnc arall, bydd mynediad ar y cwrs yn ddibynnol ar y modiwlau yr ydych wedi eu cy awni. Mae gwiriad DBS uwch yn angenrheidiol ar gyfer y rhaglen hon, a chodir ta^l ychwanegol ar y myfyriwr am hynny.
Bydd mod di chi gamu ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig sy’n gysylltiedig â gofal plant, gan gynnwys TAR Blynyddoedd Cynnar/Addysg Gynradd, neu radd Feistr mewn disgyblaeth sy’n gysylltiedig â phlant. Mae graddedigion yn meddu ar swyddi a rhagolygon hyfforddi mewn ystod eang o ddisgyblaethau gofal plant, er enghraifft; gwaith cymdeithasol, bydwreigiaeth a nyrsio plant/nyrsio pediatrig.
Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gwaith maes, sesiynau gweithdy a sesiynau tiwtorial. Fel arfer, bydd angen cyflawni aseiniadau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol wrth i chi symud ymlaen trwy’r flwyddyn academaidd.
Mae modiwlau yn cynnwys:
- Rheoli’r Amgylchedd Dysgu
- Plant a’r Gymdeithas Gyfoes
- Cefnogi a Gwerthuso Iechyd Cyfannol a Llesiant Plant a Phobl Ifanc
- Dylanwadau ar Ddatblygiad Cyfannol Plant a Phobl Ifanc
Fel arfer bydd raid i chi gwblhau tasgau ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol wrth i chi symud ymlaen drwy’r wyddyn academaidd. Bydd traethawd yn ofynnol.