Crynodeb o’r cwrs
Bydd y rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr sy’n dymuno datblygu llu o sgiliau ym maes lletygarwch, digwyddiadau a busnes. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r mewnwelediadau angenrheidiol i chi allu datblygu dealltwriaeth o reoli sefydliadau lletygarwch yn fwy effeithiol. Partneriaeth: Prifysgol Cymru Y Drinfof Dewi Sant. Cod UCAS: N801
Gradd Teilyngdod ar Lefel 5.
Gallwch symud ymlaen i ddilyn rhaglen ôl-radd sy’n gysylltiedig â lletygarwch. Mae gan raddedigion gyfleoedd cyflogaeth ym meysydd lletygarwch ac arlwyo, er enghraifft: cynllunio priodasau a gwleddoedd, rheolwr bwyd a diod, rheolwr ty bwyta, lletygarwch corfforaethol a rheolwr cynadleddau a gwleddoedd.
Mae modiwlau yn cynnwys: Rheoli Lletygarwch yn Strategol, Gastronomeg Gyfoes, Rheoli'r Fasnsch Drwyddedig, Gweithrediadau Bwytai, Technegau Cegin Broffesiynol, Rheoli Gwleddau a Chynadleddau
Dulliau Addysgu a Dysgu. Fel arfer bydd y rhaglen hon yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial. Fel arfer bydd raid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau a thasgau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen drwy’r rhaglen.