Mae’r HND mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yn rhaglen sy’n para blwyddyn yn amser llawn / dwy flynedd yn rhan-amser ar lefel prifysgol a ddyluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o’r diwydiant adeiladwaith, neu sy’n gweithio ynddo.
Bydd y cwrs yn eich helpu i adeiladu ar eich sgiliau mewn rheoli safleoedd, contractau a rheoli a Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM), cynaliadwyedd a rheoli adeiladau cymhleth.
Byddwch yn astudio meysydd allweddol fel cyfraith seiliedig ar adeiladwaith, dulliau adeiladwaith modern amgen (AMC), diogelwch safleoedd ac yn ogystal â thechnegau rheoli safleoedd, byddwch hefyd yn dysgu am weithdrefnau contractau, rheoli prosiectau a’r broses asesu risg adeiladwaith.
Rhaid i fyfyrwyr fod yn 18 oed, a meddu ar y cymwysterau canlynol:
Wedi cwblhau'r HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig, neu wedi ennill cymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol. Wedi cyflawni TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ar Radd C neu Uwch.
Bydd gan raddedigion ragolygon cyflogaeth pellach mewn disgyblaethau rheoli adeiladwaith, gan gynnwys Rheoli Safleoedd, Rheolwyr Cyfleusterau a Rheoli Prosiectau. Mae parch mawr at y cwrs hwn gan gyflogwyr yn y diwydiant adeiladwaith. Gall graddedigion hefyd fynd ymlaen i astudiaeth bellach sef gradd atodol lefel 6 mewn disgyblaeth gysylltiedig.
Bydd y cwrs yn cynnwys saith Uned HND yn cynnwys:
- Prosiect Grwp wedi'i osod gan Pearson
- Contractau a Rheolaeth
- Rheoli Prosiectau
- Rheoli ar gyfer Prosiectau Adeiladu Cymhleth
- Dulliau Adeiladwaith Amgen
- Cynnal a Chadw a Gweithrediadau
- Datblygiad Proffesiynol Personol
Mae dysgu ac addysgu yn digwydd mewn amgylchedd ystafell ddosbarth, gydag asesiadau penodol yn cynnwys cyfuniad o waith cwrs, ymarferion cyflwyniadau grwp a gwaith dosbarth a fydd yn dangos y wybodaeth a enillwyd gennych a'ch arbenigedd yn y diwydiant.
Bydd costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r cwrs, megis offer personol (h.y. esgidiau â blaenau traed dur)