Ffioedd Dysgu

Mae dwy brif gost yn gysylltiedig ag astudio ar gyfer cymhwyster ar lefel prifysgol – ffioedd dysgu a chostau byw. Gallwch ddewis talu’ch costau eich hun neu gallwch wneud cais i weld a ydych chi’n gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu a benthyciad cynhaliaeth. Nid oes angen i’r mwyafrif o fyfyrwyr sy’n gwneud cais am fenthyciadau myfyrwyr dalu unrhyw beth ymlaen llaw am eu cwrs. Fodd bynnag, mae angen i chi ad-dalu’ch benthyciadau pan fyddwch wedi gadael y cwrs a dechrau ennill dros £27,295 y flwyddyn.

I ddod o hyd i’r ffi ddysgu gyfredol ar gyfer pob un o’n cyrsiau, cliciwch y ddolen isod.

Ffioedd Dysgu

Pe baech chi’n gadael eich rhaglen astudio cyn iddi gael ei chwblhau, fe allech chi fod yn gyfrifol o hyd am rai / pob un o’r ffioedd dysgu blynyddol. Gallwch weld dadansoddiad o hyn isod.

Name Role
Myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl neu’n ysbeidiol o fewn y cyfnod gras. 0% o’r ffioedd dysgu blynyddol sy’n daladwy
Myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl neu’n ysbeidiol ar ôl y cyfnod gras, ond cyn ail ddiwrnod yr ail dymor. 25% o’r ffioedd dysgu blynyddol sy’n daladwy
Myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl neu’n ysbeidiol ar neu ar ôl ail ddiwrnod yr ail dymor, ond cyn ail ddiwrnod y trydydd tymor. 50% o’r ffioedd dysgu blynyddol sy’n daladwy
Myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl neu’n ysbeidiol ar neu ar ôl ail ddiwrnod y trydydd tymor. 100% o’r ffioedd dysgu blynyddol sy’n daladwy